Cyfranwyr blaenllaw yn galw am Gomisiynydd Gwledig

Rhagfyr 2019 | Polisi gwledig, Sylw

Yn ddiweddar, adolygodd grŵp cynghori’r prosiect adroddiad Rural Wales: Time to Meet the Challenge 2025 dan arweiniad Eluned Morgan yn ei rôl fel Aelod Cynulliad Rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.  Roedd y Panel yn cydnabod bod llawer o bethau wedi symud ymlaen ers cyhoeddi’r adroddiad yn 2017, ond roedd yn teimlo bod gwerth o hyd mewn ailystyried ei argymhellion, yn enwedig oherwydd nifer yr arbenigwyr gwledig blaenllaw a gyfrannodd ato.

Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg eang o rai o’r heriau sy’n wynebu’r Gymru wledig, gan gynnwys y posibilrwydd o golli cymorthdaliadau amaethyddol sylweddol ac arian datblygu rhanbarthol o ganlyniad i’n hymadawiad o’r UE, yn ogystal â’r angen i baratoi ar gyfer mwy o awtomeiddio a chroesawu Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Er nad yw’r adroddiad yn cynnig dadansoddiad manwl o’r polisi neu’r newidiadau economaidd strwythurol a ddylai ddigwydd, mae’n crynhoi’r anawsterau cymhleth niferus a wynebir mewn cymunedau gwledig modern ac yn cynnig rhai syniadau newydd a phenodol. Un o’r rhain yw darparu eco-gartrefi i bobl hŷn, gyda darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol gysylltiedig yn lleol, a allai ryddhau cartrefi lleol i deuluoedd ifanc a darparu cyfleoedd cyflogaeth, a’r llall yw defnyddio cymunedau gwledig Cymru fel cefndir i’r gwaith o ddarparu gwersi Saesneg i wladolion Tsieineaidd.

Yn fwy strategol, mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, y mae rhai ohonynt – er enghraifft, hyrwyddo twristiaeth a bwyd a’r economi sylfaenol – eisoes yn ganolbwynt i fentrau polisi datblygedig iawn, gyda chyllid cysylltiedig. Un argymhelliad nad yw wedi’i dderbyn eto yw’r alwad am Gomisiynydd Gwledig i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac i hyrwyddo llais gwledig wrth lunio polisïau.

Un maes lle mae’r adroddiad yn taflu goleuni defnyddiol arno yw diffyg capasiti grid Cymru wledig, sydd ond yn gallu digwydd drwy ddull cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a chwmnïau’r grid. Byddai uwchraddio’r grid trydan yn paratoi’r ffordd ar gyfer cynhyrchu trydan ar raddfa fawr o ffynonellau adnewyddadwy, yn galluogi Cymru wledig i ddatgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth, yn ogystal â darparu’r seilwaith hanfodol sydd ei angen ar gwmnïau gweithgynhyrchu sy’n dymuno buddsoddi.

Mae’r adroddiad Time to Meet the Challenge yn ganllaw defnyddiol i lawer o’r heriau sy’n gyfarwydd i’r rhai sy’n ymwneud â datblygu gwledig, ond mae’n galonogol gwybod bod llawer o bolisïau a mentrau bellach yn cael eu cyflawni, yn enwedig gan strategaeth wledig Sir Gaerfyrddin ei hun, sy’n mynd i’r afael â rhai o’r problemau a amlinellir yma.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb lawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

Rural Wales – Time to Meet the Challenge 2025

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This