Rhaid i drefi Sir Gaerfyrddin groesawu’r heriau

Tachwedd 2019 | Polisi gwledig, Sylw

Yn ei adolygiad diweddar o’r adroddiad The Future of Towns in Wales, roedd panel cynghori’r prosiect yn teimlo’n galonogol ar ôl gweld rhai o’r camau gweithredu diriaethol a amlinellwyd a sut y gallai’r rhain fod yn berthnasol i Sir Gaerfyrddin.

Mae adroddiad 2018 gan ymgynghorwyr The Means, sy’n arbenigo mewn datrysiadau rheoli lle, yn edrych ar ba rôl y mae trefi’n ei chyflawni yng Nghymru heddiw, a pha bolisïau sydd eu hangen i ymateb i heriau ‘mega-duedd’ poblogaeth sy’n heneiddio, sef ymadawiad pobl ifanc o oedran gweithio, a’r bygythiad o siopa ar-lein.

Mae angen i drefi fanteisio ar eu nodweddion unigryw, gan gynnwys eu hymdeimlad cryf o le, treftadaeth gymunedol a lleol, yn ogystal â chroesawu’r heriau, gan gynnwys cyfuno adnoddau i ymateb ar y cyd i’r byd digidol.

Yn draddodiadol, mae’r economi ar gyfer pobl hŷn wedi tueddu i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau gofal, ond mae’r adroddiad yn argymell syniadau newydd gan fusnesau a manwerthwyr gan ganolbwyntio ar bobl hŷn iach ac egnïol, y mae gan lawer ohonynt incwm gwario da.

Mae cyfleoedd i drefi ddenu pobl iau, a all gael eu perswadio i adael y ddinas am well ansawdd bywyd, aer glân, a mwy o fforddiadwyedd. Gallai’r stryd fawr ei hun hwyluso gweithio o bell drwy ddarparu gofod a chysylltedd desgiau poeth.

Er bod rhai o’r cynigion o ran siopau yn dirywio’n derfynol ar y stryd fawr o bosibl, nododd yr adroddiad fod rhai mannau – lle mae presenoldeb ffisegol yn hanfodol – yn parhau’n gryf gyda photensial i dyfu. Gallai’r tueddiad cynyddol i fwyta allan fod yn fanteisiol i berchnogion tai bwyta yn y dref sy’n gallu prynu bwyd a diod yn lleol, er mwyn ateb galw defnyddwyr am gynaliadwyedd, er enghraifft. Dylai trefi ganolbwyntio hefyd ar ddarparu cyfleusterau adloniant a hamdden i fanteisio ar y newid yn arferion gwario pobl o nwyddau materol i brofiadau.

Gall un cynnig cryf ddenu pobl i’r dref a darparu’r ysgogiad ar gyfer twf pellach ar y stryd fawr, gan ennyn hyder mewn eraill i adeiladu busnesau cyflenwol. Mae Coaltown Espresso Bar yn arcêd Fictoraidd hanesyddol Rhydaman, yn enghraifft o siop ‘un gyrchfan’ sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y dref gyfan.

Un o’r gwendidau mwyaf a nodwyd gan awduron yr adroddiad oedd diffyg syniadau cydgysylltiedig ac ymateb cydgysylltiedig i’r heriau. Fodd bynnag, mae dull mwy integredig yn cael ei ddarparu yn Sir Gaerfyrddin, gyda menter Deg Tref Wledig y Cyngor. Bydd prosiect £90 miliwn Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, hefyd o gymorth.

Mae’r adroddiad yn nodi bod llawer o bethau i fod yn obeithiol yn eu cylch, ond yn dod i’r casgliad bod cydweithredu ar bob lefel yn allweddol er mwyn adfywio trefi. Mae angen i fusnesau ddod at ei gilydd i wella ac addasu’n barhaus, a dim ond o fewn fframwaith cryf o gydweithredu a meddwl mewn modd cydgysylltiedig y gellir gwneud hyn.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb llawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

FSB – The Future of Towns in Wales

FSB – The Future of Welsh Towns in Wales (Cyflwyniad)

FSB – The Future of Towns in Wales (Nodyn polisi)

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This