Economi Hunaniaeth – cysyniad modern i Sir Gaerfyrddin fodern

Hydref 2019 | Polisi gwledig, Sylw

Yn ddiweddar, adolygodd grŵp cynghori’r prosiect Economies of Identity: State of the Art, a gyhoeddwyd gan Inês Gusman yn 2018, sy’n edrych ar waith sawl academydd enwog sy’n ysgrifennu yn y maes. Er ei fod yn gysyniad anodd ei ddiffinio a’i ddeall, mae Gusman yn dadlau bod ‘economi hunaniaeth’ bellach yn sylfaenol i allu rhanbarth i ennill mantais gystadleuol.

Mae globaleiddio wedi golygu bod tiriogaethau’n newid ac na ellir eu diffinio’n hawdd bellach fel systemau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a daearyddol gwahanol ac amrywiol, maent yn fwy hyblyg a niwlog.  Mae economi hunaniaeth yn ymgais i ddeall sut mae tiriogaethau’n dod i’r amlwg yn y byd newydd hwn o ryng-gysylltedd, sydd wedi arwain at gysylltiadau economaidd a chymdeithasol newydd, wedi’u datgysylltu fwyfwy o diriogaeth ddaearyddol.

Er gwaethaf globaleiddio cynyddol, mae amrywiaeth a gwahaniaeth tiriogaethol yn parhau’n bwysig – efallai’n fwy felly nag erioed.  Yn sicr, mae economïau gorllewinol cyfalafol modern yn defnyddio hanes, diwylliant, treftadaeth a chof torfol fel ffordd o ymateb i’r farchnad gyfunol fwyfwy byd-eang a chael mantais gystadleuol.

Mae meithrin y priodoleddau hyn hefyd yn hyrwyddo hunaniaeth ranbarthol gref, sydd efallai hyd yn oed yn gwireddu angen cynhenid yn ein plith am ddiogelwch, am werthoedd sy’n para mwy, wedi’u hangori a’u gwreiddio gydag ymdeimlad cryf o berthyn i gymuned, mewn byd sy’n newid yn gyflym.

O ganlyniad, mae economi hunaniaeth wedi dod yn rhan o strategaeth y gwneuthurwyr polisi rhanbarthol ar gyfer denu pobl, buddsoddiad ac adnoddau, i sicrhau grym economaidd.

Gallai defnyddio economeg hunaniaeth weithio’n dda yng nghyd-destun Sir Gaerfyrddin. Wedi’i hamddiffyn, i ryw raddau, rhag grymoedd eithafol globaleiddio, mae Sir Gaerfyrddin yn cadw llawer o’r nodweddion sy’n ffurfio economi hunaniaeth gref, fel hanes cyfoethog, diwylliant ac iaith, cynigion profiad unigryw, a hunaniaeth gynyddol o ran bwyd, celf a chrefft.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb llawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

Economies of Identity – State of the Art

Economies of Identity – State of the Art (Presentation slides)

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This