Gwersi o fframwaith polisi gwledig byd-eang

by Medi 20, 2019Arloesi entrepreneuraidd, Featured CY

Yn ddiweddar, adolygodd grŵp cynghori’r prosiect Bolisi Gwledig 3.0 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), sef fframwaith trosfwaol i helpu llywodraethau cenedlaethol i gefnogi datblygu economaidd gwledig. Mae’r polisi yn hyrwyddo’r bwriad i hybu cystadleurwydd drwy fuddsoddi, yn hytrach na’r rhaglenni cymhorthdal mwy traddodiadol a anelir at sectorau penodol, sydd bellach yn cael eu hystyried yn aneffeithiol ac yn hen ffasiwn.

Drwy’r lens polisi hwn, mae rhanbarthau gwledig yn cael eu hystyried fel mannau llawn cyfleoedd ac injans ffyniant cenedlaethol, er eu bod yn ardaloedd sy’n wynebu heriau strwythurol sylweddol o ran diffyg seilwaith a phellterau oddi wrth farchnadoedd. Tueddiad cyffredin ar draws pob un o wledydd yr OECD yw’r boblogaeth sy’n heneiddio, y mae’r adroddiad yn dadlau y dylid ei weld fel cyfle arwyddocaol, yn hytrach na dim ond her. Mae’r ffaith bod pobl yn byw’n hirach yn arwydd o gynnydd ac yn darparu marchnad ar gyfer nwyddau a gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a nwyddau eraill sy’n gysylltiedig ag oedran.

Fodd bynnag, mewn cyd-destun poblogaeth sy’n heneiddio, bydd twf yn dod yn fwyfwy dibynnol ar gynyddu cynhyrchiant, lle mae gweithlu llai yn cynhyrchu’r un allbwn oherwydd datblygiadau mewn technoleg a chynnydd mewn lefelau sgiliau.

Er bod rhanbarthau gwledig yn cynnwys mwyafrif helaeth y tir, o ran dŵr ac adnoddau naturiol eraill, dim ond chwarter y boblogaeth sy’n byw ynddynt. Mae canlyniadau economaidd hefyd yn dibynnu ar ba mor agos yw canolfannau trefol a bydd angen i ddulliau polisi amrywio yn unol â hynny.

Mae’r cyfleoedd ar gyfer ardaloedd gwledig yn deillio o arallgyfeirio’r economi y tu hwnt i amaethyddiaeth a sectorau eraill sy’n seiliedig ar adnoddau naturiol, er mwyn cwmpasu gweithgynhyrchu, gwasanaethau ecosystem, twristiaeth, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn ogystal â diwydiannau’r celfyddydau a diwylliant. Gall meithrin entrepreneuriaeth fod yn fwy anodd mewn rhanbarthau gwledig, ond gall canolbwyntio ar nodweddion gwledig unigryw ac asedau sy’n benodol yn lleol ddarparu cyfleoedd ar gyfer syniadau busnes newydd.

Mae angen anelu at hyrwyddo cystadleurwydd yn hytrach na chydraddoli. Mae’r adroddiad yn dadlau o blaid newid sylfaenol mewn pwyslais oddi wrth sectorau strategol a bennwyd ymlaen llaw, at ddeall cryfderau ac asedau ardal fel y gall arbenigrwydd lleol ac arloesedd lywio datblygiad.

Gan dderbyn bod Polisi Gwledig 3.0 yn friff polisi strategol lefel uchel o ranbarthau gwledig ar draws ardal yr OECD, nid yw pob un o’r themâu yn berthnasol i sir Gaerfyrddin. Er hynny, mae’r adroddiad yn agor trafodaeth ddefnyddiol am yr angen am ymagweddau polisi mwy cynnil gan ddibynnu ar deipoleg yr ardal wledig benodol, y berthynas rhwng ardaloedd gwledig a chanolfannau trefol, a phwysigrwydd cynhyrchion a gwasanaethau arbenigol ac unigryw.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb lawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

Rural 3.0. A Framework for Rural Development (Nodyn polisi)

Share This