Cipolwg ar strategaeth wledig newydd Sir Gaerfyrddin

Awst 2019 | Polisi gwledig, Sylw

Yn ddiweddar, mae grŵp cynghori’r prosiect wedi adolygu’r adroddiad ‘Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen’ gan Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, sy’n cynnwys 55 o argymhellion ar draws 10 maes allweddol.

Mae cwmpas yr adroddiad yn eang, ond un o brif atyniadau’r adroddiad yw lansio’r ‘Menter Deg Tref Wledig’, sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar gyfer trefi gwledig a’r pentrefi cyfagos drwy greu cymaint o swyddi â phosib a chefnogi’r gwaith o ddatblygu’r economi wybodaeth.

Mae’r adroddiad yn cynnwys ystadegau defnyddiol ar sir Gâr wledig sy’n rhoi dealltwriaeth bellach o’r sir. Mae dadansoddi’r data, ochr yn ochr â chanlyniadau ymgynghoriad ehangach, wedi arwain y grŵp gorchwyl i nodi themâu trosfwaol sy’n cydnabod bod llawer o faterion mewn ardaloedd gwledig yn gysylltiedig. Mae’r themâu’n cynnwys bywyd cymunedol, tai ac un yn benodol am ofnau ynghylch dyfodol amaethyddiaeth ar ôl Brexit. Mae’r themâu blaenoriaeth canlynol o arwyddocâd arbennig i brosiect yr Arsyllfa:

  • Punt sir Gâr – cadw gwariant gan sefydliadau, busnesau ac unigolion yn y sir.
  • Adfywio economaidd. Twf priodol a chynaliadwy. Canolbwyntio ar ddatblygu sectorau craidd ac arbennig addas ar gyfer sir Gaerfyrddin.
  • Seilwaith band eang a thrafnidiaeth i gefnogi datblygiadau economaidd yn ogystal â rhai cymdeithasol.
  • Yr iaith Gymraeg – cydnabod pwysigrwydd cymunedau gwledig i hyfywedd yr iaith yn y dyfodol er nad yw’r adroddiad yn manylu ar hyn.

Mae dull cadarn, sy’n seiliedig ar le, yn cael ei hyrwyddo drwy’r adroddiad, yn seiliedig ar y ffocws ar drefi. Anogir yr awdurdod lleol i gymryd rôl arweiniol wrth ei hyrwyddo fel modd o ddatblygu cymunedau gwledig ffyniannus a chynaliadwy. Mae cymorth hefyd ar gyfer yr economi sylfaenol a chylchol yn thema gref drwyddi draw.

Un o egwyddorion allweddol yr adroddiad, sy’n cyd-fynd â gwaith prosiect yr Arsyllfa, yw cefnogi entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc a’r angen i feithrin a chefnogi’r rheini sydd am ddatblygu a chodi eu dyheadau yn y sir. Y prif gyfrwng ar gyfer meithrin diwylliant entrepreneuraidd yw gweithio drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a’r Prosiect Talent, gyda’r adroddiad hefyd yn awgrymu y gallai Coleg Sir Gâr fod yn ysgogydd pwysig o ran arloesi drwy ganolfan technoleg a sgiliau.

Mae’r adroddiad yn gwneud 7 argymhelliad i Gyngor Sir Caerfyrddin dan y pennawd “Datblygu Economaidd” gyda thai, addysg a sgiliau yn ddim ond rhai enghreifftiau o’r dimensiynau y mae’r argymhellion yn ymdrin â nhw, er nad yw’r adroddiad yn manylu ar y rhain.

I gloi, mae’n amlwg bod ‘Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen’ yn adroddiad uchelgeisiol ac eang ei gwmpas sy’n archwilio’r materion sy’n wynebu rhannau gwledig o’r sir, gan gydnabod ar yr un pryd nad oes un ateb addas i bawb. Mae’r adroddiad yn trafod pwysigrwydd entrepreneuriaeth yn dda, ond mae angen dod â’i amrywiol elfennau sydd naill ai’n cyfeirio ato’n oblygedig neu’n benodol at ei gilydd yn strategaeth ac yn rhaglen waith gydlynol.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb llawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

Moving Rural Carmarthenshire Forward

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This