Mynychwyr gweithdai gwledig yn galw am lais gwledig unedig

Gorffennaf 2019 | Polisi gwledig, Sylw

Ym mis Gorffennaf 2019, bu grŵp cynghori’r prosiect yng Ngweithdy Gwledig Carno ac fe adolygodd allbwn y gweithdy, a ddaeth ag amrywiaeth eang o unigolion ynghyd a chanddynt gyfoeth o brofiad mewn datblygu gwledig o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Rhoddodd cyflwyniadau’r gweithdy ar y diwrnod, ynghyd â nodiadau dilynol, drosolwg da i Arsyllfa o’r llwyddiannau economaidd lleol sy’n bodoli ac enghreifftiau o arfer da.

Un o’r negeseuon allweddol oedd yr angen i gymunedau a sefydliadau gwledig weithio gyda’i gilydd i chwyddo eu llais a thynnu sylw at gyfleoedd a heriau, gan gael gwared ar y canfyddiad o ardaloedd gwledig fel dim ond ‘ardaloedd trefol wedi methu’.

Llwyddodd y cyflwyniadau i rai o’r syniadau creadigol a oedd yn defnyddio technoleg ddigidol i greu argraff dda ar banel yr Arsyllfa, gan gynnwys ap Partneriaeth Tref Aberteifi, sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymwelwyr. Tynnodd Asiantaeth Ynni Severn Wye sylw hefyd at yr effaith y gallai dileu tlodi tanwydd ei chael mewn ardaloedd gwledig a rhoddodd enghreifftiau o sut y gellid rhoi hyn ar waith ymhellach.

Bu’r ffermwr lleol, Tom Jones, sydd â phrofiad oes o gynrychioli’r llais gwledig ar bob lefel, yn ystyried pwysigrwydd polisi Ewropeaidd newydd ar bentrefi CLYFAR, gan annog Cymru i ddysgu’r gwersi o’r gwaith hwn.  Rhannodd yr Academi Amaeth brofiadau cadarnhaol cenhedlaeth newydd o ffermwyr a gymerodd ran yn ei rhaglen Busnes ac Arloesedd.

Cytunai’r cyfranogwyr fod dull rhagweithiol, datrys problemau, lle mae pob unigolyn a sefydliad yn yr ardal leol yn cymryd cyfrifoldeb am gymryd rhan weithredol mewn datblygu cymunedol a bod ganddynt ryddid i arbrofi, yn gweithio’n well na diwylliant rhaglen grant goddefol y gorffennol.

Deilliodd themâu cryf o’r gweithdy, yn enwedig grym cydweithio, pwysigrwydd rhwydweithiau lleol, yr angen i groesawu technoleg newydd, a galwad am sefydliad newydd, sy’n annibynnol ar y llywodraeth a chynghorau lleol, i hyrwyddo llais Cymru wledig ar lefel genedlaethol.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb lawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

Cyflwyniad Gweithdy Gwledig Carno

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This