Gweithdy Entrepreneuriaeth yn Sir Gar gyda PDDS

Gorffennaf 2019 | Polisi gwledig, Sylw

Cafodd gweithdy entrepreneuriaeth ei gynnal mewn partneriaeth a phrosiect Arsyllfa a Phrifysgol Drindod Dewi Sant ar y 24 o Fawrth 2019 (Wedi lleoli ar gampws Caerfyrddin)

Nod y gweithdy oedd hwyluso’r drafodaeth rhwng myfyrwyr y brifysgol o’r Ysgol fusnes, cyllid a rheolaeth a rhanddeiliaid ehangach ynghyn â chymhelliant a rhwystrau sy’n annog entrepreneuriaeth.

Cyn i’r drafodaeth dechrau, cyflwynodd Wynfford James (ymgynghorydd Arsyllfa) trosolwg o’r prosiect cyn sesiwn byr ar economi Sir Gar gan Four Cymru.

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys sesiwn mapio busnesau a sectorau twf o’r sir a chyflwyno tair esiampl o entrepreneuriaid ifanc sydd wedi sefydlu busnesau yn llwyddiannus: Scott James (Coaltown Coffee); Liam Burgess (Nom Nom Chocolate); Hanna Symis (Sewing Circus).

Dyma’r prif themâu a gafodd ei grybwyll gan gyfranogwyr yn ystod y trafodaethau’r gweithdy:

  • Er mwyn bod yn llwyddiannus a chael effaith postif’ yn lleol mae’n rhaid i entrepreneuriaid deall y gymuned a’r boblogaeth leol rydym yn bwriadu sefydlu eu busnes ynddo. Roedd y cyfranogwyr yn credu bod hyn yn cael ei brofi yn yr astudiaethau achos a ddangoswyd yn ystod y digwyddiad gan fod y busnesau hynny’n cefnogi’r cymunedau lle rydym wedi ei lleoli megis trwy hyrwyddo hunaniaeth yr ardal.
  • Nodwyd bod biwrocratiaeth y llywodraeth yn rhwystr oedd yn dal entrepreneuriaid yn ôl oherwydd bod rhai o’r rheoliadau ddim yn ddigon clir. Roedd yr ymdeimlad yn debyg tuag at nifer o ‘wasanaethau’ swyddogol oedd wedi cynnig i entrepreneuriaid gan nad yn anodd cael gafael ar y wybodaeth berthnasol yn hygyrch. Teimlwyd hefyd bod yr help oedd yn cael ei gynnig gan fentoriaid oedd heb lawer o brofiad o sefydlu ei busnes felly nad oedd llawer o werth i’r cymorth hynny.
  • Gwelwyd bod yna cystadleuaeth ddiangen rhwng gwasanaethau cefnogaeth wedi’i anelu at helpu entrepreneuriaid ac felly cymhlethu dewisiadau’r unigolion.
  • Mae signal ffon a band llydan yn rhwystr i fusnesau gwledig gan fod y byd ar-lein yn hanfodol i ddatblygu.
  • Problem amlwg arall a gafodd ei grybwyll oedd bod pobl ifanc yn dueddol o adael yr ardal oherwydd diffyg swyddi a chyflog dda gyda mwy o gyfleoedd mewn swyddi tymhorol, rhan amser sydd ddim yn gynaliadwy. Er hyn, nodwyd rhai bod Sir Gar yn gartref i nifer o fusnesau arloesol sy’n medru cynnig swyddi sy’n talu’n dda ond bod diffyg cyfathrebu ynghylch y cyfleoedd hyn. Golygir hyn bod gwybodaeth yn cael ei golli gan nad yw busnesau yn cyfathrebu cyfleoedd neu nad yw unigolion yn gwneud digon o ymchwil wrth ymchwilio am swyddi.
  • Mater pwysig a godwyd yn ystod y drafodaeth oedd yr angen i newid diwylliant entrepreneuriaeth. Edrychodd y gweithdy ar broblem hanesyddol yn Sir Gar enwedig agweddau’r genhedlaeth hyn oedd yn teimlo bod pobl ifanc dim ond yn medru bod yn llwyddiannus os oeddwn yn mynd mewn i addysg neu’n gweithio yn y sector gyhoeddus. Agwedd cyfredol o hyn yw bod pobl ifanc yn credu eu bod angen gadael y sir er mwyn bod yn llwyddiannus. Mae’n rhaid newid meddylfryd ac roedd pawb yn gytûn bod gan y system addysg rôl bwysig i gyflawni hyn.
  • Roedd cyfranogwyr yn credu nad oedd entrepreneuriaeth yn cael ei ddysgu digon mewn ysgol. Roeddem yn teimlo ei fod angen cael ei brif ffrydio ar draws pob pwnc nid yn unig astudiaethau busnes. Hefyd, ceir mecanwaith ehangach sy’n magu entrepreneuriaeth megis gwaith cymunedol, mae nifer o bobl yn Sir Gar eisoes yn entrepreneuriaid heb wybod, o fewn eu cymunedau ond ddim yn gweld eu hun yn entrepreneuriaid oherwydd nad yw’n ymwneud a ‘busnes.
  • Yn olaf, trafodwyd yr angen i adnabod entrepreneuriaid posibl ac unwaith eu bod yn barod i ddechrau eu busnes bod y cymorth cywir ar gael iddyn nhw. Hefyd, mae pobl ifanc angen mwy o gyfle i ddatblygu eu syniadau oherwydd bod nifer yn mynd syth i weithio a ddim yn cael cyfle pwrpasol i ymchwil a datblygu eu syniadau entrepreneuraidd.

Yn dilyn y drafodaeth cytunwyd byddai ddefnyddiol pe bai ymgysylltu pellach yn digwydd rhwng y prosiect a’r cyfranogwyr. Mae Arsyllfa ar hyn o bryd yn y proses o drefnu gweithdai pellach er mwyn cael deallusrwydd gwell o ddiwylliant entrepreneuriaeth yn Sir Gar.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This