Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Busnesau Cymdeithasol Cymru 2023

Awst 2023 | Arfor, Sylw

Mae Gwobrau Busnesau Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi’r unigolion a’r sefydliadau sydd wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer eu wythfed seremoni gwobrwyo. Bwriad y gwobrau yw dathlu llwyddiant mentrau a busnesau sy’n gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ar draws Cymru gan fesur eu llwyddiant yn ôl y budd y maent yn ei ddarparu i bobl ar lawr gwlad. Mae’r gwobrau yn rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae yna 6 categori o wobrwyau, sy’n dathlu gwahanol elfennau ar fusnesau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r rhestr enwebiadau fel a ganlyn:

Menter Gymdeithasol y Flwyddyn (noddwyd gan Dŵr Cymru)

Gwobr i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn weithredol ers 2 flynedd ac sy’n rhagori ar ddangos gweledigaeth strategol, wedi eu rheoli’n dda ac sy’n ymrwymedig i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned ehangach.

Wedi eu henwebu mae:

  • Câr-y-Môr
  • Galeri Caernarfon Cyf
  • Partneriaeth Ogwen

 

Un i Wylio (noddwyd gan Dŵr Cymru)

Gwobr i fentrau cymdeithasol newydd, sydd wedi bod yn weithredol ers llai na 2 flynedd hyd at fis Ebrill 2023 ac sy’n mynegi gweledigaeth ehangach o’u pwrpas a’u hamcanion ar gyfer y dyfodol ac sy’n dangos sut y maent am gael eu cyflawni yn glir ac argyhoeddedig.

Wedi eu henwebu mae:

  • Menter y Glan
  • Signposted Cymru
  • The Bike Lock

 

Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder (noddwyd gan The Co-op)

Gwobr i’r mentrau cymdeithasol rheini sy’n amlwg yn mynd i’r afael a cheisio sicrhau cyfiawnder cymdeithasol.

Wedi eu henwebu mae:

  • Inside Out Wales
  • NeuDICE CIC
  • Outside Lives

 

Hyrwyddwr Menywod Mentrau Cymdeithasol

Gwobr sy’n cydnabod cyfraniad menyw sydd yn gweithio fel un o arweinwyr menter gymdeithasol neu sefydliad sydd yn cefnogi mentrau cymdeithasol.

Wedi eu henwebu mae:

  • Hannah Pugh, Holistic Hoarding
  • Eleanor Shaw, People Speak Up
  • Lucy Powell, Outside Lives Ltd

 

Menter Cymdeithasol yn y Gymuned (noddwyd gan Legal and General)

Gwobr ar gyfer mentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn weithredol am 2 flynedd neu fwy ac sydd yn cael effaith sylweddol yn lleol.

Wedi eu henwebu mae:

  • Câr-y-Môr
  • Fforwm Arfordirol Sir Benfro
  • With Music in Mind

 

Arloesiad y Flwyddyn gan Fenter Gymdeithasol (noddwyd gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

Gwobr sy’n cydnabod menter gymdeithasol sy’n cynnig cynnyrch neu wasanaeth arloesol.

Wedi eu henwebu mae:

  • Câr-y-Môr
  • Creu Menter
  • SimpLee Swim Ltd

Cynhelir y noson wobrwyo yng Nghaerdydd ar 18 Hydref. Mae pob enillydd wedyn yn cynrychioli Cymru yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol y DG a gynhelir ym mis Rhagfyr. Am fwy o wybodaeth am y rheini sydd wedi enwebu, dilynwch y ddolen hon.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This