Llywodraeth Cymru yn cynnal Ymgynghoriad Strategaeth Gwres

Medi 2023 | Sylw

a white radiator in a room

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Ymgynghoriad Strategaeth Gwres i Gymru, er mwyn deall barn y cyhoedd ynghylch eu strategaeth gwres a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Nod y Llywodraeth yw datblygu systemau gwres nad ydynt yn ddibynnol ar fewnbynnau ynni sy’n deillio o ffynonellau sy’n allbynnu carbon. Mae’r strategaeth yn un eang ei sgôp, ac yn gofyn i’r rheini sydd am ymateb wneud hynny drwy edrych ar 6 prif faes. Y meysydd hynny yw:

  • Fframwaith galluogi: yr hyn fydd yn caniatáu pontio teg rhwng systemau gwresogi sy’n seiliedig ar allbynnu carbon i systemau mwy gwyrdd.
  • Rhwydweithiau ynni: sut y bydd gwres yn cael ei gyflenwi a pherthynas hyn gyda’r grid trydanol a’r cyflenwad ynni presennol.
  • Cartrefi: sut y gellid addasu tai presennol i’w gwneud yn fwy effeithlon a sicrhau bod tai newydd sy’n cael eu hadeiladu yn cadw gwres.
  • Busnesau: perthynas hyn oll a busnesau lleol a sut gall y trawsnewidiad hwn yn y modd o feddwl am wres ac ynni helpu busnesau a’n heconomïau lleol i fod yn llewyrchus.
  • Diwydiant: sut y mae creu’r amgylchedd ar gyfer datblygiadau arloesol bydd yn arwain y ffordd mewn datrys problemau gwresogi tai ac yn annog buddsoddiad pellach mewn sectorau cyffelyb.
  • Gwasanaethau cyhoeddus: sut y gellid arwain y ffordd yn y newid sydd ei angen drwy sicrhau fod adeiladau cyhoeddus dan reolaeth y Llywodraeth yn cael eu haddasu fel eu bod yn fwy effeithlon o ran ynni a chadw gwres.

Fe allwch ddarllen y strategaeth yn ei chyfanrwydd yma, ac mae modd i chi ymateb i’r ymgynghoriad drwy ddilyn y ddolen hon. Dyddiad cau’r ymgynghoriad hwn yw 8 Tachwedd 2023.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This