Prosiect celf a lles arloesol newydd yn lansio yng Nghaernarfon

Medi 2023 | Arfor, Sylw

Mae prosiect Mwy wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb yng Nghaernarfon ar 12 ac 19 Medi 2023. Bydd y sesiynau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal yn Porthi Dre Caernarfon yng ngofal Sioned Medi Evans, Iola Ynyr a Nia Wyn Skyrme.

Bwriad y prosiect yw annog llesiant drwy ddulliau creadigol a chelfyddydol drwy gyfrwng y Gymraeg i ferched dros 18 mlwydd oed. Mae trefnwyr y prosiect am i’r sesiynau feithrin awyrgylch galonogol a cadarnhaol a fydd yn helpu i unigolion ddefnyddio eu creadigrwydd i ddychmygu dyfodol gwell i’w hunain, i eraill ac i’r amgylchedd. Bydd y rheini sy’n mynychu yn cael cyfle i gyflwyno eu syniadau a’u trafod gydag eraill ynghyd a chynhyrchu gwaith creadigol ar ffurf ysgrifenedig neu drwy lunio delweddau. Nod pennaf y sesiynau hyn yw magu hyder mewn unigolion i fynegi eu hunain yn enw teimlo’n well ac yn gyfforddus ynddyn nhw eu hunain ac i ddarparu gofod iddynt allu gwneud hynny sy’n groesawgar ac yn gefnogol i bawb.

Dywedodd Sioned Medi Evans, sydd yn artist ac yn un o gydlynwyr ac arweinwyr Mwy:

‘Mae bod yn rhan o brosiect Mwy wedi, yn llythrennol, rhoi mwy i mi yn barod na oeddwn wedi’w ddychmygu, a dim ond megis dechrau ydym ni. Mi ydw i a Iola Ynyr wedi cynnal pedair sesiwn blasu yn y cnawd ac un rhithiol dros Zoom, a mae’r ymateb a’r profiad wedi fy ysbrydoli fwy na’r un prosiect arall i mi fod yn rhan ohono. Mae gonestrwydd a chreadigrwydd y merched sydd wedi cyfranogi hyd yma wedi profi fod angen mawr i’r math yma o brosiectau yn ein cymunedau, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg.’

Mae’r sesiynau hyn yng Nghaernarfon yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau a digwyddiadau sydd ar y gweill. Wedi sesiynau blasu a gynhaliwyd cyn yr haf, mae’r trefnwyr nawr ar ddechrau rhaglen gyflawn o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yng Nghaernarfon a rhai rhithiol bydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd hyd nes mis Mawrth 2024. Mae’r sesiynau rhithiol nesaf yn cael eu cynnal ar 3 Hydref a 7 Tachwedd 2023, a gan fod y galw ar eu cyfer yn debygol o fod yn uchel, fe anogir y rheini sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i archebu lle drwy ddilyn y ddolen hon. Mae’r trefnwyr hefyd am i’r rheini sydd wrthi’n dysgu Cymraeg wybod fod croeso iddynt hwythau fynychu hefyd.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan gronfa Llais y Lle drwy Cyngor Celfyddydau Cymru ac hefyd Cyngor Gwynedd. Am fwy o wybodaeth ynghylch gwaith Mwy gallwch ddilyn y prosiect ar Instagram a Twitter i ganfod y wybodaeth ddiweddaraf. Mae hefyd modd canfod gwybodaeth ynghylch trefniadau eu digwyddiadau ar wefan Am.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This