Llywodraeth Cymru yn darparu £600,000 i wella iechyd a diogelwch i bysgotwyr a gweithwyr dyframaeth

Medi 2023 | O’r afon i’r môr, O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

yellow and red boat on sea during daytime

Mae Llywodraeth Cymru yn annog i weithwyr a busnesau yn y diwydiannau pysgota a dyframaeth yng Nghymru i wneud cais am grant bydd yn darparu arian i wella iechyd a diogelwch yn eu gweithleoedd.

Mae’r grant yn rhan o Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru, cronfa o arian sy’n bodoli ar gyfer y diwydiant pysgota er mwyn hybu twf sy’n gynaliadwy yn nhermau economaidd ac amgylcheddol, ac sy’n helpu i gefnogi’r cymunedau rheini sy’n dibynnu ar y gwaith hwn. I ddysgu mwy am y Cynllun yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon.

Amcan y grant Iechyd a Diogelwch yw gwella hylendid, iechyd, diogelwch, llesiant ac amodau gweithio i bysgotwyr a gweithwyr dyframaeth yng Nghymru. Mae modd gwneud cais am nwyddau megis siacedi a rafftiau achub a thywysydd lleoli personol i weithwyr. Dylai pob eitem a archebir dilyn canllawiau a bodloni meini prawf dogfen iechyd a diogelwch Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.

Mae ystod y grant yn estyn o leiafswm o £200 hyd at uchafswm o £10,000. Mae modd gwneud cais hyd nes 11 Hydref 2023. Rhaid i ymgeiswyr gofrestru gyda Thaliadau Gwledig Cymru (Rural Payments Wales). Mae modd canfod canllawiau ar sut i wneud hynny drwy ddarllen y wybodaeth ar y dudalen hon.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig:

‘Mae iechyd a diogelwch o’r pwys mwyaf, ac mae’n dda gen i bydd y cyllid hwn yn galluogi ein pysgotwyr a gweithwyr dyframaethu i wella’r agwedd hon ar eu gwaith.

Bydd Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn bwysig wrth helpu ein sectorau physgodfeydd, y môr a dyframaethu ymdrin â’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau, a gweld ein cymunedau arfordirol ffynnu yn y dyfodol.’

Gallwch ddysgu mwy am y grant hwn, ynghyd a grantiau eraill Môr a Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru, drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This