Croeso Cymru yn cynnal sioeau teithiol i’r diwydiant twristiaeth

Medi 2023 | Polisi gwledig, Sylw

a river running through a town surrounded by mountains

Bydd cynrychiolwyr o Croeso Cymru yn teithio ar hyd y lled y wlad dros yr hydref, yn enw cynnal sioeau undydd i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Bwriad y daith yw rhoi cyfle i’r rheini sy’n rhedeg busnesau a gweithio oddi fewn i’r sector dwristiaeth yng Nghymru gael mynediad at y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch marchnata, datblygu a chymorth ynghyd a’r newyddion a’r ymchwil sy’n llywio’r maes ar hyn o bryd.

Yn ymuno a Croeso Cymru bydd Digwyddiadau Cymru ynghyd a siaradwr gwadd lleol o’r diwydiant twristiaeth i annerch y rheini bydd yn mynychu. Y gobaith yw y bydd y gweithgareddau amrywiol, sy’n cynnwys stondinau masnach a’r sesiynau holi ac ateb yn cynnig cyfle gwych i randdeiliaid y diwydiant rwydweithio a gwneud cysylltiadau newydd.

Bydd y digwyddiadau’n dechrau am 10yb (gyda chofrestru yn agor am 9:15yb) ac yn rhedeg hyd nes 3yp, gyda sesiwn ychwanegol dewisol rhwng 3yh a 4yh yng nghwmni tîm Digwyddiadau Cymru bydd yn trafod Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB). Dyma blatfform sy’n rhwydweithio systemau archebu a rhestrau eiddo busnesau twristiaeth a system byd eang o ddosbarthwyr y mae modd i bobl ar draws y byd archebu drwyddynt.

Bydd y sioe yn ymweld â’r lleoliadau canlynol:

  • Dydd Iau 12 Hydref 2023, Coldra Court Hotel, Langstone, Casnewydd
  • Dydd Mercher 18 Hydref 2023, Pafiliwn Llangollen, Llangollen
  • Dydd Mercher 25 Hydref 2023, Canolfan Cynadleddau Medrus, Prifysgol Aberystwyth
  • Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023, Stadiwm Swansea.com, Abertawe

Mae mynediad i’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac fe ellir canfod mwy o wybodaeth ac archebu tocynnau drwy ymweld a gwefan Busnes Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This