Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn lansio grantiau ar gyfer prosiectau amgylcheddol

Medi 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi cyhoeddi bod rownd nesaf Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar agor i ymgeiswyr wneud ceisiadau. Bwriad y cynllun yw ariannu prosiectau sy’n gwella bioamrywiaeth, lleihau gwastraff ar safleoedd tirlenwi a sicrhau gwelliannau amgylcheddol ehangach. Mae’r prif grantiau yn ymestyn rhwng £5,000 a £49,000 gyda modd i ymgeiswyr wneud cais am brosiectau sydd o bwys cenedlaethol rhwng £50,000 a £250,000.

Mae modd i ymgeiswyr wirio os ydynt yn gymwys drwy edrych ar y meini prawf ar wefan CGGC, ynghyd ag edrych ar fap digidol y maent wedi paratoi er mwyn edrych os ydynt oddi fewn i 5 milltir i safle gwastraff cymwys. Mae prosiectau blaenorol a noddwyd gan y cynllun yn cynnwys Coedwig Fach Caerffili, sy’n cael ei redeg gan fudiad Gweithredu Hinsawdd Caerffili. Mae hwn yn brosiect o wirfoddolwyr Gaerffili oedd yn gofidio am newid hinsawdd a ddaeth ynghyd yn 2020. Yn sgil y nawdd maent wedi gallu plannu 600 o goed a chreu ‘coedwig fach’ ym Mharc Morgan James yng Nghaerffili.

Yn ôl CGGC mae’r broses yn un cystadleuol iawn gyda nifer uchel o geisiadau yn cael eu derbyn, ond os mae modd derbyn cymorth wrth fynd ati i lunio cais drwy gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Am ragor o wybodaeth, ynghyd a’r holl fanylion sydd ei angen arnoch i ddechrau ystyried gwneud cais, dilynwch y ddolen hon i wefan CGGC.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This