Grŵp Riverford yn lansio deiseb yn galw am degwch gan archfarchnadoedd

Medi 2023 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

pile of pumpkin

Mae grŵp ffermwyr Riverford wedi galw ar brif archfarchnadoedd y DU i sicrhau amodau teg i’r ffermwyr sy’n darparu ffrwythau a llysiau i’w siopau.

Mewn llythyr i brif weithredwyr yr archfarchnadoedd pennaf y DU mae Guy Singh-Watson, sefydlwr Riverford, yn datgan bod bron i hanner o ffermwyr ffrwythau a llysiau yn gofidio ynghylch eu gallu i barhau fel busnesau dros y 12 mis nesa. Dyweda fod ymddygiad archfarchnadoedd ymysg y ffactorau pennaf yng ngyrru’r ansicrwydd hwn, a hynny mewn cyd-destun lle maent yn cyhoeddi mwy o elw nac erioed.

Dywed fod dull gweithredu’r archfarchnadoedd hyn yn aml yn annheg ac yn cynrychioli gweledigaeth byr dymor gwastraffus sy’n gwadu sicrwydd i ffermwyr. Mae’n crybwyll y ffaith bod rhaid i ffermwyr wynebu cynaeafau cyfan yn cael eu gwrthod ar y funud olaf os daw cynnyrch rhatach ar gael o ffynhonnell arall ac ar fympwy prynwyr yr archfarchnadoedd.

Effaith hyn oll yw bod cynnyrch yn cael ei wastraffu a’r diwydiant yn cael ei wanhau i’r graddau fod yna bellach fygythiad sylweddol i ffermwyr nad ydynt yn gallu ymdopi a pheidio cael eu talu am eu llafur. Dywed fod dros ddau draean (69%) o ffermwyr ffrwythau a llysiau yn credu dylid bod mwy o reoleiddio i sicrhau annhegwch grym sy’n bodoli rhwng ffermwyr ac archfarchnadoedd.

Mae Riverford wedi lansio deiseb yn galw ar chwe archfarchnad fwyaf y DU i gadw at bump addewid penodol i sicrhau tegwch i gynhyrchwyr bwyd. Maent yn galw ar archfarchnadoedd i sicrhau:

  • Bod ffermwyr yn cael eu talu’r hyn a gytunwyd gyda’r archfarchnadoedd.
  • Bod archfarchnadoedd yn prynu’r hyn a gytunwyd i’w brynu gan ffermwyr.
  • Bod archfarchnadoedd yn cytuno i ymrwymo i fanylebau teg ar gyfer cynnyrch.
  • Bod archfarchnadoedd yn ymrwymo i gytundebau hir dymor gyda ffermwyr.
  • Bod archfarchnadoedd yn cytuno i sicrhau bod taliadau yn brydlon.

Gallwch ddysgu mwy am yr ymgyrch a galwadau Riverford drwy ymweld a’u gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This