Cyngor Powys yn cynnal ymgynghoriad am ddiogelwch yn y Sioe Frenhinol

Awst 2023 | Sylw

Mae Cyngor Powys yn annog trigolion Llanfair-ym-muallt ac ymwelwyr i’r Sioe Frenhinol i ymateb i arolwg ynghylch diogelwch yn ystod wythnos y sioe. Gyda chynifer yn ymweld â’r sioe yn flynyddol, mae diogelwch digwyddiad o’r fath yn amlwg yn flaenoriaeth ac mae’r arolwg yn gofyn am farn y rheini wnaeth fynychu eleni am eu barn ynghylch trefniadau yno. Mae’r arolwg hefyd yn gofyn i ymatebwyr am eu barn ynghylch yr hyn y gellid ei wneud yn y dyfodol i sicrhau fod y sioe yn un diogel a hygyrch i bawb.

Dyddiad cau’r arolwg yw 6 Medi 2023. Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg drwy ddilyn y ddolen hon.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This