Llythyr agored yn galw ar Lywodraeth Cymru gadw cefnogi ffermio organig

Awst 2023 | O’r pridd i’r plât, Sylw

a person holding a glove

Mae llythyr agored wedi ei drefnu gan Fforwm Organig Cymru wedi ei anfon i Lywodraeth Cymru yn galw arnynt i gadw cefnogaeth ariannol yn ei le ar gyfer busnesau sy’n cynhyrchu bwyd drwy ddulliau organig. Mae’r llythyr, sydd wedi ei arwyddo gan garfan o ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd ac unigolion ynghlwm a sefydliadau natur, yn mynegi gofid dwys fod Llywodraeth Cymru yn paratoi i ddod a chefnogaeth ariannol i’r sector i ben.

Fel rhan o’r tirlun ôl-Brexit mae’r cynllun presennol i gefnogi buddiannau amgylcheddol yn y sector amaeth yn dod i ben ar ddiwedd 2023, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gosod cynllun interim yn ei le ar gyfer 2024. Yn ôl y llythyr mae’n ymddangos fod cefnogaeth ar gyfer cynhyrchwyr bwyd organig yn absennol o’r cynllun newydd.

Mae’r llythyr yn datgan:

‘Rydym ni – busnesau, cynhyrchwyr bwyd a sefydliadau ffermio ac amgylcheddol – yn eich annog i ailystyried cynlluniau eich llywodraeth i dynnu cymorth yn ôl ar gyfer ffermio organig yng Nghymru.

Bydd tynnu cymorth yn ôl ar gyfer ffermio organig yn arwain at ganlyniadau economaidd ac amgylcheddol difrifol yng Nghymru. Mae’r penderfyniad yn achosi risg ddirfodol i allu sector bwyd a ffermio Cymru i gyflawni ein rhwymedigaethau hinsawdd, natur a diogelwch bwyd. Mae’n debygol o ysgogi ffermwyr organig i adael y diwydiant yn llu, gan wneud niwed tymor hir i’r sector.’

Mae’r llythr wedi ei arwyddo gan yr unigolion canlynol:

Iestyn Tudur-Jones – Rheolwr Cyffredinol, Welsh Lamb and Beef Producers Ltd

Caroline Sherrott – Uwch Reolwr Ardystio, Soil Association Certification

Steven Jacobs – Rheolwr Datblygu Busnes, Ffermwyr a Thyfwyr Organig

Cristina Dimetto – Rheolwr Gyfarwyddwr, Organic Trade Board

Alan Prior – Rheolwr Gyfarwyddwr, Rachel’s Organic

Laurence Harris a Dr Tom Harris – Daioni Organic Ffermydd Ffosyficer

Leisia Tudor – Rheolwr Amaethyddiaeth Cig Oen, Dunbia

Lord Newborough – Perchennog Fferm a Busnes, Rhug Estate

Patrick Holden – Sylfaenydd a PSG, Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy

Hywel Morgan – Cadeirydd y Rhwydwaith Ffermio, sy’n Ystyriol o Natur yng Nghymru

Holly Tomlinson – Cydlynydd Polisi Cymru, Gweithwyr y Tir

Gary Mitchell – Cyd-reolwr Cymru, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru

Jimmy Woodrow – PSG, Pasture for Life

Alun Prichard – Cyfarwyddwr, RSPB Cymru

Rachel Sharp – Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Natur Cymru

Gareth Clubb – Cyfarwyddwr, WWF Cymru

Lhosa Daly – Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Gallwch ddarllen y llythyr yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This