Cynhadledd comisiynwyr iaith yn dod i Gymru

Mehefin 2024 | Arfor, Sylw

Bydd cynhadledd sy’n dod a chomisiynwyr iaith o ar draws y byd yn dathlu ei degfed pen blwydd yng Nghaerdydd ar 10-11 o Fehefin 2024. Bydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn cynnal sawl digwyddiad gan gynnwys digwyddiad lansio yn y Senedd ar 10 Mehefin, gyda chynhadledd lawn i ddilyn yng Ngwesty’r Parc Caerdydd ar 11 o Fehefin.

Mae yna amrywiaeth eang o sesiynau wedi eu paratoi ar gyfer y gynhadledd, gan gynnwys trafodaethau ynghylch sut y mae safonau’r Gymraeg yn newid pethau yn y gweithle a thu hwnt, a darlith gan yr Athro Rob Dunbar ynghylch datblygiadau diweddar mewn polisi iaith y Deyrnas Gyfunol o safbwynt Cyngor Ewrop.

Comisiynydd Iaith Cymru, Efa Gruffydd Jones, yw cadeirydd presennol y Gymdeithas. Mewn datganiad dywedodd:

“Dros y blynyddoedd mae’r cyfle i drafod a meithrin rôl comisiynwyr iaith yn ogystal â rhannu arferion effeithiol gyda gwledydd eraill wedi bod yn rhan greiddiol o’n gwaith. Mae angen gweld y Gymraeg yng nghyd-destun byd amlieithog ac mae gwaith y Gymdeithas a’r gynhadledd hon yn ein galluogi i arddangos sut mae’r iaith yn cael ei defnyddio’n naturiol o ddydd i ddydd. 

“Rwy’n hynod falch mai Cymru yw cartref y gynhadledd yn y flwyddyn arbennig hon wrth i’r Gymdeithas ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed.” 

Gall y rheini sydd am ddilyn y gynhadledd wneud hynny drwy gyfrwng ffrwd ar wefan y Comisiynydd iaith. Am fwy o wybodaeth ynghylch digwyddiadau’r diwrnod, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This