Prosiectau Cronfa Her ARFOR

Mai 2024 | Arfor, Sylw

Mae tri deg o brosiectau arloesol ar draws gogledd a gorllewin Cymru wedi sicrhau cyllid gwerth cyfanswm o dros £2 filiwn drwy Gronfa Her ARFOR.

Isod ceir crynodeb byr o’r tri deg prosiect llwyddianus.

Gwynedd

  • Cymen: Datblygu Technoleg Adnabod Lleferydd Cymraeg.
  • Sain / Oleia: Canolfan Sain: Datblygu gofod digidol a ffisegol; Cadw a digideiddio catalog Sain mewn modd cynaliadwy, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hygyrch i genedlaethau’r dyfodol.
  • Prifysgol Bangor: Cynllun ymchwil Heriau recriwtio staff dwyieithog.
  • Cwmni Bro Antur Aelhaearn: Prosiect tai a iaith Antur Aelhaearn; Model perchnogaeth tai leol sy’n rhannu dysgu, peilota a gwersi ar draws ardal ARFOR.
  • Adra: Cynllun Gwella sgiliau’r sector adeiladu i fanteisio ar gontractau fframweithiau ôl-osod er budd busnesau bach a chanolig.
  • Pennotec: Gwasanaeth Trap Algâe gan fusnes biotechnoleg amgylcheddol. Cynllun sy’n datblygu a phrofi dull arloesol o gael gwared ar halogiad algâu o byllau yn rhanbarth ARFOR.
  • Adain: Normaleiddio’r Gymraeg mewn Marchnata Digidol. Cynllun sy’n helpu busnesau o fewn ardal ARFOR i gryfhau eu presenoldeb digidol yn Gymraeg a chreu perthnasau gyda busnesau eraill.
  • Prifysgol Bangor: ARFer: Ap sydd wedi’i ddatblygu i gefnogi unigolion a grwpiau i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn y gwaith.
  • Asiannt Cyf: Hwyluso darparwyr gofal plant cymunedol ac addysg gynnar (BC) cyfrwng Cymraeg/dwyieithog i wella a datblygu safon eu darpariaeth yn unol â gofynion yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru, gan hyrwyddo a chynnal recriwtio a chadw’r gweithlu lleol, gan arwain at gynnydd mewn sefydlogrwydd a thwf busnes.

 

Ynys Môn

  • M-SParc: Rhwydwaith Cymry Llundain: Cynllun sy’n rhoi cyfle i M-SParc a’r rhanbarth i amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael ar draws Ardal ARFOR i gymuned Cymry Llundain.
  • HAIA / M-SParc: Gwlad y Gemau: Cynllun i adfywio’r Gymraeg drwy arloesedd Esports a thechnoleg i
  • MySparc: Porth digidol (ar ffurf Ap) fydd yn dod ag eco-system fusnes, menter, academia, myfyrwyr a buddsoddwyr at ei gilydd mewn un lle i greu cymuned Arloesi ARFOR.
  • M-SParc: Academi Iaith a Gwaith: Cynllun cyflogaeth sy’n cynnig gwaith o safon i bobl leol sy’n rhoi’r cyfle iddynt ddysgu neu wella a defnyddio’r iaith Gymraeg. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau tra’n cyflogi; a chreu gofodau Cymraeg.

 

Ceredigion

  • Sgema Cyf: GlobalWelsh: datgloi potensial Cymry alltud ARFOR – Creu cymuned ddigidol ‘Gofod Cymraeg’ (Sir Gâr a Cheredigion) i gwmnïoedd sydd wedi’i rhwydweithio’n fyd-eang & mapio cwmnïoedd eraill all fanteisio o’r ardal. Ffocws ar gynyddu gwerth economaidd cwmnïoedd fel atyniadau i fuddsoddiadau a syniadau newydd cydweithredol. Partneriaeth â GlobalWelsh.
  • Fflach: Trosglwyddo cwmni Fflach oedd yn blatfform i gerddorion Cymraeg i fod yn gwmni cymunedol.
  • Hybu Cig Cymru: Datgarboneiddio Cig Eidion: Gwaith ymchwil sy’n canolbwyntio ar werthuso a dangos cyfleoedd ariannol ac amgylcheddol o fabwysiadu arferion newydd o gynhyrchu cig eidion, yn ogystal ag addysgu ffermwyr am effeithiolrwydd cynhyrchu cig eidion.
  • Tan y Graig: Blas ar Gymru: Cynllun sy’n creu profiad Cymreig hollol unigryw a fydd yn dathlu diwylliant a thraddodiadau Cymru.
  • Golwg: Ymestyn y gwefannau bro ar draws ARFOR: Cynllun sy’n cynnal ymchwil yng nghymunedau Sir Gâr a Gwynedd (namyn Arfon) a fyddai’n archwilio’r galw.
  • Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw: Cynllun sy’n gwahodd 10 cyw-ddramodydd am benwythnos preswyl i gael cyfle ac ysbrydoliaeth i ysgrifennu. Bydd cyfle iddynt gael eu mentora am gyfnod o 3 mis i fireinio eu crefft, cyn cynhyrchu dramâu gwreiddiol i’w cyhoeddi ar blatfform ar-lein, y Llyfrgell Ddramâu erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Rupert Allan: Prosiect i broffilio blaenoriaethau diwylliannol a busnes ar y map ar-lein cyhoeddus (OpenStreetMap) gan adeiladu ar fwyd, ffermio a thwristiaeth ddiwylliannol fel Archif Gymunedol ddeinamig.

 

Sir Gâr

  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: IAITH GWEITHLE, IAITH GWEITHLU: Cynllun sy’n dadansoddi defnydd y Gymraeg mewn gweithleoedd a gan y gweithlu yn siroedd ARFOR.
  • Goiawn: Antur Amser: Pecyn addysgol ar ffurf gem VR i blant ysgol.
  • Tetrim Teas: Tyfu Iaith, Tyfu Madarch, Tyfu Partneriaeth: Cynllun sy’n rhoi’r cyfle i dair o gymunedau difreintiedg yng ngorllewin Cymru i fanteisio ar brofiad ac arbenigedd cwmni Madarch Cymru.
  • Iaith – Cadernid Iaith: Prosiect sy’n datblygu a pheilota hyfforddiant Cadernid Iaith (Linguistic Assertiveness) ar gyfer y maes gofal babanod a phlant ifanc.
  • Theatr Genedlaethol Cymru: Cynllun sy’n datblygu ac ailfywiogi’r gweithlu theatr dechnegol yng ngorllewin Cymru ac yn genedlaethol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael lleoliad gwaith 6 mis o hyd.

 

Tu allan i ARFOR

  • Darogan Talent: Denu graddedigion i ardal ARFOR: Cynllun peilot sy’n canolbwyntio ar ddenu myfyrwyr a graddedigion diweddar sy’n astudio y tu allan i Gymru i’r rhanbarth drwy roi gwybod iddynt am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yno, a thrwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i fyfyrwyr y tu allan i Gymru.
  • Llais Cymru: Ffenest Siop: Gwefan ‘Ffenest Siop’ sy’n sicrhau bod unrhyw un sydd eisiau derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg, yn gallu dod o hyd i fusnesau a gwasanaethau sy’n cynnig hyn o fewn ardaloedd ARFOR.
  • Mentrau Iaith Cymru: Cynllun sy’n ysgogi mentergarwch Cymry Cymraeg yn y maes hamdden a chwaraeon.
  • Undeb Rygbi Cymru: Cynllun sy’n normaleiddio a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad ac yn y byd busnes drwy gynnig gweithdai cyfrwng C Cynllun peilot sy’n creu cysylltiadau cryfach rhwng clybiau rygbi, busnesau lleol a’u perthynas gyda’r Gymraeg sydd yn arwain at fudd economaidd.
  • Alaw / Cymdeithas Bêl-Droed Cymru: Cyfres o ddigwyddiadau ym mhob un siroedd rhanbarth ARFOR sy’n efelychu diwylliant CBDC a’r Wal Goch, gan gynnwys dwyieithrwydd, cynwysoldeb a chysylltiad gyda’r gymuned fusnes.

 

 

 

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This