Cynllun Ffermio Cynaliadwy – Cyhoeddi’r Cynigion Amlinellol

Gorffennaf 2022 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynigion amlinellol ar gyfer Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, prif ffynhonnell cymorth y Llywodraeth yn y dyfodol i ffermwyr yng Nghymru.

Yn y Rhagair, mae Lesley Griffiths AS, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, yn galw’r cynigion yn ‘Ffordd Gymreig’ o ffermio – wedi’u hintegreiddio o fewn cymunedau gwledig Cymru, yn gydnaws â thirwedd Cymru ac yn gwneud defnydd gofalus o adnoddau.

Mae gan y Cynllun arfaethedig dair haen benodol sy’n cynnwys canlyniadau Cyffredinol, sy’n berthnasol i bob ffermwr, haenau Dewisol a Chydweithredol sy’n cynnwys camau gweithredu mwy cymhleth, wedi’u targedu neu i’w cyflawni ar y cyd.

Mae Undebau Amaethwyr wedi croesawu’r cynigion ar y cyfan. Mae UAC wedi dweud eu bod “ar y trywydd iawn” ond mae pryderon yn parhau am y manylion.

Mae’r cynigion amlinellol yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This