Diwedd LEADER ym Mhowys

Gorffennaf 2022 | Polisi gwledig, Sylw

Cynhaliwyd digwyddiad dathlu ar 7 Gorffennaf i nodi diwedd rhaglen LEADER ym Mhowys. Roedd yn nodi 30 mlynedd o gefnogaeth i fentrau arloesol a arweinir gan y gymuned.

 

Dechreuodd LEADER ym Mhowys yn gynnar yn 1992, dan nawdd Menter Powys, un o bedair rhaglen arloesi yng Nghymru a dim ond 217 ar draws Ewrop. Siaradodd Liz Bickerton, Prif Swyddog cyntaf Menter Powys am sut y dechreuodd LEADER a sut y gwnaeth y fenter wreiddiol esblygu dros y blynyddoedd. Wedi hynny darparwyd LEADER gan Glasu ac am y saith mlynedd diwethaf gan Arwain.

Ffurfiodd cynrychiolwyr prosiectau llwyddiannus Arwain LEADER banel i drafod eu llwyddiannau a’u hetifeddiaeth. Amlinellodd panel cyllidwyr y cyfleoedd sydd i ddod, gan bwysleisio’r angen i brosiectau lleol archwilio tirwedd ehangach o gyllid gan gynnwys ymddiriedolaethau a loteri.

Ceir rhagor o fanylion am brosiectau a ariannwyd gan Arwain yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This