Arddangos Rhaglen Wledig

Gorffennaf 2022 | Polisi gwledig, Sylw

Bu dau weithdy hanner diwrnod diweddar yn arddangos gwaith Dyfodol Gwledig, elfen datblygu cymunedol Rhaglen Wledig Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Cynhaliwyd y gweithdai ym Mhenmachno, Conwy a Myddfai, Sir Gaerfyrddin.

Cyflwynodd cynrychiolwyr cymunedol fanylion eu gweithgareddau. Amlinellodd arbenigwr gwledig y rhaglen, yr Athro Paul Milbourne o Brifysgol Caerdydd, rai o nodweddion tlodi gwledig. Amlinellodd Endaf Griffiths o Wavehill rai o ganfyddiadau cynnar gwerthusiad y rhaglen.

Mae Dyfodol Gwledig yn cael ei redeg gan Severn Wye a Phartneriaeth BRO. Dechreuodd y rhaglen 7 mlynedd yn 2017 a bydd yn cefnogi 14 o gymunedau ledled Cymru wledig. Mae’n cefnogi cymunedau i ddatblygu eu syniadau eu hunain i fynd i’r afael â heriau lleol.

Mae pecyn cymorth Dyfodol Gwledig newydd wedi’i lansio sy’n cynnwys deg astudiaeth achos o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae’n dangos sut mae cymunedau wedi ymateb i rai o’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Darllenwch fwy am Dyfodol Gwledig yma.

Mae’r Pecyn Cymorth ar gael yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This