Pam y dylai Llywodraeth y DU ddatblygu polisïau Ffyniant Bro sy’n ‘gynhwysol i ardaloedd gwledig’

Gorffennaf 2022 | O’r pridd i’r plât, Sylw

Mae papur briffio diweddar gan The National Innovation Centre, Rural Enterprise, (NICRE) ym Mhrifysgol Newcastle, yn gwneud yr achos dros gydnabyddiaeth strategol glir ac ymrwymiad i economïau gwledig mewn polisïau, rhaglenni ac adnoddau.

Cyhoeddwyd yr achos strategol dros gydnabyddiaeth deg i economïau gwledig mewn polisïau Ffyniant Bro, ym mis Tachwedd 2021. Mae’n rhybuddio bod polisïau Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn anwybyddu’r cyfraniad y mae cwmnïau gwledig yn ei wneud at dwf economaidd, llesiant a datgarboneiddio. Mae economïau gwledig, mae’n dadlau, yn cael effaith y tu hwnt i’w daearyddiaeth. Mae cadwyni cyflenwi, gweithluoedd a gweithgareddau gwledig yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ardaloedd gwledig neu ddiwydiannau gwledig traddodiadol ac yn cael effaith sylweddol ar allbwn cenedlaethol.

Mae’r papur yn darparu tystiolaeth helaeth o Loegr i gefnogi ei ddadl ganolog. Mae’n gallu dangos, er enghraifft, bod gweithgynhyrchu, gwasanaethau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, a diwydiannau gwybodaeth a chyfathrebu yn dal o leiaf[1] 152,000 o weithdai, ffatrïoedd, swyddfeydd, labordai, parciau busnes a gwyddoniaeth gwledig yn Lloegr.

Bydd angen cymorth wedi’i dargedu ar fentrau a chymunedau gwledig i ryddhau eu potensial a mynd i’r afael â rhai gwendidau gweithredol, mae’r adroddiad yn dadlau, os yw polisïau Ffyniant Bro am gyflawni eu nod o leihau anghydraddoldeb o ran cyfleoedd, swyddi, masnach, cysylltedd ac arloesedd. I wneud hyn anogir y llywodraeth i roi mwy o welededd a sylw i economïau gwledig a sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn gynhwysol ac yn deg ar draws dinasoedd, trefi ac ardaloedd gwledig.

Mae’r adroddiad yn cynnig pum ffordd y gall buddsoddiad fod yn decach.

  • Addasu’r broses o dargedu a dylunio polisïau a rhaglenni buddsoddi newydd. Mae’r adroddiad yn cynnig cryfhau prosesau prawfesur gwledig.
  • Dileu arwyddion o ffafriaeth drefol tuag at ddinasoedd a diwydiannau cyfun trwy amlygu materion yn ymwneud â natur wledig mewn dogfennau polisi.
  • Cefnogi rhyng-ddibyniaethau rhwng lleoedd ac economïau gyda chronfa fuddsoddi bwrpasol.
  • Mabwysiadu metrigau neu ddangosyddion cynhwysol o fuddion economaidd a/neu ganlyniadau gweithredol. Mae’r papur yn croesawu’r cyfiawnhad yn ôl dwysedd poblogaeth a’r defnydd o Incwm Aelwydydd Crynswth i’w Wario (GDHI) yn y Gronfa Adnewyddu Cymunedol.
  • Meithrin gallu a sianeli ar gyfer mentrau gwledig a chymunedau ymylol i godi eu hymwybyddiaeth a’u gallu i sicrhau a rheoli buddsoddiadau cyhoeddus. Mae’r papur yn tynnu sylw at lwyddiant y dull Grŵp Gweithredu Lleol a ddefnyddiwyd o dan y rhaglen LEADER.

Mae sefydliadau yn Lloegr fel y Rural Services Network yn parhau i wthio am fwy o gydnabyddiaeth wledig mewn polisïau Ffyniant Bro. Mae hyn yn cynnwys ymchwil diweddar a gynhaliwyd gyda Pragmatix Advisory, (Mehefin 2022) sy’n nodi pe bai cymunedau gwledig yn Lloegr yn rhanbarth unigryw eu hunain, byddai eu hangen am ffyniant bro’n fwy nag unrhyw ranbarth arall yn y wlad.

Gellir darllen papur briffio NICRE yma.

Gellir darllen adroddiad The Rural Services Network/ Pragmatix Advisory yma.

[1] Isafswm yw’r ffigurau hyn, wedi’u tynnu o ffynonellau data Defra, gan eu bod ond yn berthnasol i Unedau Busnes Lleol Busnesau Cofrestredig mewn Ardaloedd sy’n Wledig yn Bennaf yn 2019/20.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This