Diffinio Iaith a’r Economi

Awst 2020 | Arfor, Sylw

boat on water near bridge

Fel rhan o ddigwyddiadau Eisteddfod AmGen eleni cynhaliodd Arsyllfa gyfres o sesiynau yn ymwneud â’r economi yng Nghymru. Cafodd yr ail sesiwn ‘Diffinio Iaith a’r Economi / Economi Iaith gan ddefnyddio Arfor fel astudiaeth achos’ ei darlledu yn ystod wythnos Eisteddfod AmGen.

Roedd y sesiwn yn gyfle i dreiddio’n ddyfnach i ddiffiniad Iaith a’r Economi a’r gwahaniaeth rhyngddo ag Economi Iaith trwy fwrw golwg ar y maes polisi a chynllunio iaith. Roedd y drafodaeth yn defnyddio cysyniad Arfor fel astudiaeth achos er mwyn gallu esbonio’r ddau ddiffiniad a sut mae’n cael ei weithredu ar lawr gwlad. Y gobaith yw gall y drafodaeth arwain at ddehongliad gwell o berthynas yr Iaith a’r Economi ac Economi Iaith.

Owen Derbyshire oedd cadeirydd y sesiwn, a dyma fe’n crynhoi’r drafodaeth

“Gyda COVID yn ail-siapio ein byd, a Brecsit ar y gorwel, ni fu erioed amser pwysicach inni ddod at ein gilydd a chynnal deialog onest, agored ac adeiladol am economi Cymru, a’r hyn y gall polisi cyhoeddus wneud i gefnogi ein cymunedau Cymraeg.

“Y cam cyntaf ar y siwrnai honno yw diffinio’r her, ac un agwedd bwysig o’r drafodaeth gychwynnol yw’r angen i dacluso’r dryswch sydd eisoes yn bodoli rhwng ein dealltwriaeth o’r termau – Iaith a’r Economi ac Economi Iaith.”

Mae’r panel yn cynnwys academyddion ac unigolion sy’n gweithredu yn y maes polisi a phrofiad helaeth o weithio ac ymchwilio mewn i berthynas yr Economi a’r Iaith:

Huw Lewis – Prifysgol Aberystwyth
Dr Dyfan Powell – Wavehill
Siân Gwenllïan – Aelod Senedd Cymru Arfon
Dafydd Gruffydd – Menter Môn
Gareth Ioan – Iaith Cyf

Gallwch ail-wylio drafodaeth isod. Ceir sawl sesiwn yn rhan o’r Eisteddfod AmGen sy’n gorgyffwrdd a pherthynas y Gymraeg a’r Economi ac am fwy o wybodaeth cymerwch olwg ar wefan Eisteddfod AmGen.

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This