Erthygl Ymchwil y Senedd: Costau Byw mewn Ardaloedd Gwledig

by Featured CY, Tlodi gwledig

Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn aml yn wynebu costau dyddiol uwch na’r rhai mewn ardaloedd nad ydynt yn wledig. Dyma honiad erthygl ymchwil ar-lein ddiweddar gan y Senedd (Gorffennaf 2022). Mae’r erthygl yn amlinellu’r hyn sy’n cyfrannu at y costau ychwanegol hyn a sut mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt.

Y ffactorau cyfrannol allweddol a amlinellir yn yr erthygl yw:

  • Prisiau ynni cynyddol, a all effeithio’n anghymesur ar ardaloedd gwledig oherwydd stoc tai hŷn a mwy o eiddo oddi ar y grid. Mae’r erthygl yn cyfeirio at adroddiad diweddar gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd sy’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn creu cynllun effeithlonrwydd ynni i fynd i’r afael â thlodi tanwydd gwledig.
  • Cost eitemau hanfodol. Mae’r erthygl yn dyfynnu tystiolaeth gan Sefydliad Bevan bod “y cartref gwledig cyffredin ym Mhrydain Fawr yn gwario £641.10 yr wythnos ar hanfodion o’i gymharu â £572.90 ar gyfer y cartref trefol cyffredin”.
  • Costau cynyddol mewnbynnau amaethyddol, gan gynnwys tanwydd, gwrtaith, a bwyd anifeiliaid a’r bygythiad dilynol i hyfywedd busnesau fferm.
  • Trafnidiaeth, gan gynnwys y ddibyniaeth drom ar gerbydau preifat oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ac felly effaith cynnydd mawr ym mhris tanwydd ar gyllidebau teuluoedd.

Mae’r erthygl yn amlinellu’r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r materion hyn ac yn cyfeirio at adroddiadau gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a  Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Darllenwch Erthygl Ymchwil y Senedd yma.

Share This