Manteision cymorth gwledig wedi’i deilwra ar gyfer micro-fentrau

Medi 2022 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi canfyddiadau gwerthusiad o brosiect peilot sy’n darparu ystod o gymorth integredig, seiliedig ar le i ficro-fentrau gwledig.

Nod y prosiect peilot, a ddarparwyd gan asiantaeth fenter yr Alban GrowBiz, oedd mynd i’r afael â diffyg cymorth allgymorth, diffyg ffocws y tu hwnt i amaethyddiaeth a thwristiaeth ac ychydig o gyfleoedd rhwydweithio. Roedd heriau sy’n gysylltiedig â Covid-19 yn golygu nad oedd nod i ddatblygu ymagwedd Pentref Clyfar at rwydweithio a llwybrau i’r farchnad yn datblygu fel y cynlluniwyd.

Wrth wraidd y canfyddiadau mae manteision dull unigol wedi’i deilwra o gefnogi micro-fentrau mewn ardaloedd gwledig. Mae hyn yn cynnwys cydnabod pwysigrwydd y dimensiwn cymdeithasol i ddatblygiad busnes er mwyn goresgyn unigedd; creu awyrgylch croesawgar i bobl sydd newydd ddechrau; canolbwyntio ar atebion ymarferol i anghenion unigol a cheisio cryfhau cymorth ar y cyd trwy gymuned fusnes gref.

Rhoddodd y cyfranogwyr arwyddion clir eu bod yn gweld y math hwn o gymorth yn werthfawr, ac mewn sawl achos yn ei chael yn well na dulliau cyfredol eraill o ddarparu cymorth busnes.

Gellir darllen y gwerthusiad yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This