Galwad i Fynd i’r Afael â Thlodi Trafnidiaeth yng Nghymru Wledig

Medi 2022 | Sylw, Tlodi gwledig

Mae angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â thlodi trafnidiaeth yng Nghymru yn ôl papur diweddar gan yr elusen feicio Sustrans (Mai 2022). Mae’r papur, Making the Connection

yn dadlau bod mwy o bobl yn wynebu’r perygl o gael eu llusgo i dlodi trafnidiaeth o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Gan ddefnyddio tystiolaeth a gyhoeddwyd gyntaf yn 2018 gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae’r papur yn nodi bod colli gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn taro’r rhai sy’n byw yn ardaloedd gwledig Cymru yn anghymesur, lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan allweddol wrth alluogi mynediad at wasanaethau, cyflogaeth, hyfforddiant a hamdden.

Mae’r papur yn galw am ffocws o’r newydd ar y cysylltiad rhwng trafnidiaeth ac anghydraddoldeb gan sicrhau bod gan bawb fynediad at y gwasanaethau sy’n eu galluogi i fyw bywydau hapus ac iach.

Gellir darllen y papur yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This