Gallai Sir Gaerfyrddin gael budd o fuddsoddi rhanbarthol hyblyg

Mawrth 2020 | Polisi gwledig, Sylw

Yn ddiweddar, adolygodd grŵp cynghori’r prosiect Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru: Diogelu Dyfodol Cymru, ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar ei dull arfaethedig o fuddsoddi arian amnewid wedi’i addo gan Lywodraeth y DU ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn cynnig Fframwaith Cenedlaethol symlach a hyblyg, wedi’i gysylltu’n agos â nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan ganolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth buddsoddi bras sy’n cwmpasu cynhyrchiant busnes, cymunedau iachach a mwy cynaliadwy, yr economi ddi-garbon, a lleihau anghydraddoldebau incwm.

Mae’n ddigon posibl y bydd gan Lywodraeth Cymru bryderon ynghylch lefelau buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol unwaith na fydd cyllid yr UE ar gael mwyach, ond cydnabyddir hefyd, gan y bydd rhai o’r gofynion penodol sy’n gysylltiedig â chyllid yr UE yn diflannu, bod cyfleoedd i weithio’n wahanol a datblygu dulliau newydd a ffres.

Mae’r cynnig i integreiddio dulliau cyflawni lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cynnwys ymrwymiad i ddatganoli’r broses o wneud penderfyniadau i ardaloedd lleol. Wedi’i wreiddio’n gadarn yn y gred mai pobl a sefydliadau lleol sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar eu hanghenion, eu cyfleoedd a’u cryfderau, gallai’r dull hwn gychwyn partneriaethau newydd a deinamig a rhywfaint o syniadau newydd.

Yn sicr, mae modd i sir Gaerfyrddin elwa o’r dull hyblyg hwn a’r blaenoriaethau a nodwyd.  Mae gan y sir hanes llwyddiannus o gael gafael ar gyllid rhanbarthol, diolch i sefydliadau ac unigolion medrus a gwybodus. Bydd llawer o’r blaenoriaethau a’r themâu a nodwyd hefyd yn cyd-fynd â chryfderau sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y ffocws ar dyfu busnesau newydd, trosglwyddo i economi carbon isel, a meithrin y Gymraeg – sy’n cael ei chydnabod fel thema ‘lorweddol’ – fel adnodd datblygu rhanbarthol.

Mae’n amlwg bod gan yr Arsyllfa rôl, nid yn unig o ran dadansoddi a gwneud sylwadau am yr ymgynghoriad (sy’n cau ar 22ain Mai), ond o ran darparu’r meddylfryd ffres a hyblyg sy’n ofynnol yn y dyfodol, wrth i ni addasu i fywyd y tu allan i’r UE.

Gair o rybudd, fodd bynnag, gan fod buddsoddiad rhanbarthol yn y dyfodol yn cynnwys cafeat mawr: er bod Gweinidogion Cymru wedi dadlau dro ar ôl tro y dylid cadw lefelau cyllido’r UE ac ymreolaeth Cymru yn eu dadl ‘dim ceiniog yn llai, dim colli pŵer‘, nid ydym yn gwybod eto sut y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi hyn ar waith.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb llawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru: Diogelu Dyfodol Cymru

Dadansoddiad Economaidd-gymdeithasol Cymru 2020

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This