Rhywbeth i gnoi cil drosto gan ymchwilwyr yn y Sefydliad Arloesi

by Ebr 6, 2020Arloesi entrepreneuraidd, Featured CY

Yn ddiweddar, adolygodd grŵp cynghori’r prosiect gasgliad o draethodau gan ymchwilwyr arbenigol, llunwyr polisïau ac ymarferwyr o bob cwr o’r DU a ddaeth at ei gilydd drwy NESTA – y sefydliad arloesi – i greu un adroddiad a elwir yn Arloesi Gwledig.

Er iddo gael ei lunio dros ddegawd yn ôl (2007), mae’r archwiliad hwn o newidiadau parhaus mewn ardaloedd gwledig a’r goblygiadau ar gyfer arloesi yn parhau’n berthnasol heddiw, gyda gwersi pwysig i sir Gaerfyrddin.

At ddibenion y casgliad hwn o draethodau, mae arloesi gwledig yn cael ei ddiffinio’n fwy penodol fel ‘cyflwyno rhywbeth newydd (newid newydd) i fywyd economaidd neu gymdeithasol mewn ardaloedd gwledig, sy’n ychwanegu gwerth economaidd neu gymdeithasol newydd i fywyd gwledig.’

Mae’r traethodau’n archwilio sut mae ardaloedd gwledig yn dod yn llai gwahanol ac yn fwy cydnaws â gweddill yr economi. Mae llawer o Brydain wledig yn agos at ardaloedd trefol, ac mae dirywiad mewn diwydiannau traddodiadol, megis ffermio a physgota, ochr yn ochr â mewnfudo ymysg cyn drefwyr mewn rolau proffesiynol a rheoli, wedi cymylu’r gwahaniaeth rhwng economïau gwledig a threfol.

Mae’r traethodau’n nodi tri math o arloesi gwledig: yn gyntaf, ceir arloesi gwledig sy’n cael ei yrru gan ‘alw trefol’ – megis mwy o ddiddordeb mewn bwydydd iachach, safonau cynhyrchu bwyd gwell, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Yn ail, gall arloesi gwledig gael ei sbarduno gan ‘alw gwledig’. Mae hyn yn cynnwys gwella cynhyrchiant ffermydd, wedi’i alluogi gan offer a phrosesau gwell, a gychwynnwyd gan y ffermwyr eu hunain. Mae’r drydedd elfen o arloesi gwledig yn cael ei gyrru gan ‘anghenion sylfaenol cyffredinol’, lle mae mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol, boed hynny’n addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, neu fancio a manwerthu, wedi sbarduno arloesedd mewn ardaloedd lle mae’r boblogaeth yn denau.

Ystyrir bod band eang yn sbardun allweddol ar gyfer arloesi – ffaith sydd wedi’i nodi yn ystod y tair blynedd ar ddeg ers i’r papur gael ei gyhoeddi – yn ogystal â mewnfudiad ‘cyn drefwyr’ medrus mewn rolau proffesiynol a rheoli. Nid oes angen i’r sylfaen wybodaeth wan a nodwyd gan yr ymchwilwyr fel rhwystr i arloesi fod yn berthnasol i sir Gaerfyrddin, sydd â phrifysgol leol (PCYDDS), a chysylltiadau agos â phrifysgolion Abertawe ac Aberystwyth sydd gerllaw.

Mae’r awduron yn dod i rai casgliadau diddorol wrth nodi’r ffordd ymlaen ar gyfer arloesi gwledig, yn enwedig yr angen i ganolbwyntio ymdrechion ar annog entrepreneuriaid benywaidd, a hyd yn oed meithrin sgiliau a thalentau entrepreneuraidd pobl hŷn. Mae’r argymhelliad i ganolbwyntio ar bartneriaethau a rhwydweithiau lleol yn cael ei ddeall yn dda – ac wedi’i roi ar waith yn ymarferol ers tro yng nghyd-destun sir Gaerfyrddin.

Mae’r traethodau’n rhoi rhywbeth i gnoi cil drosto yn ogystal â lens academaidd trwyadl i ystyried arloesi gwledig, er nad yw ei holl gasgliadau yn berthnasol i leoliad gwledig gorllewin Cymru. Fodd bynnag, mae rhai bylchau yn y dadansoddiad: gan fod yr ymchwil wedi’i seilio’n bennaf ar ardaloedd gwledig yn Lloegr, nid yw’r papur yn ystyried yr effaith y gall iaith a threftadaeth ddiwylliannol ei chael ar arloesedd, ffactorau y gallwn ddweud â balchder sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad economaidd sir Gaerfyrddin dros y degawd diwethaf.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb llawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

Rural Innovation (NESTA)

Share This