Adolygiad yr UE yn argymell cymorth busnes gwledig doethach

Ebrill 2020 | Sylw

Mae grŵp cynghori’r prosiect wedi edrych yn ddiweddar ar Ailddychmygu Cyfleoedd Busnes Gwledig, casgliad o erthyglau a gyhoeddwyd yn 2017 gan Adolygiad yr UE, sy’n rhoi trosolwg defnyddiol o wahanol nodweddion gwledig a’r potensial ar gyfer arloesedd a thwf. Er bod yr adroddiad yn cynnig syniadau newydd ar gymorth busnes effeithiol, mae hefyd yn atgyfnerthu’r dull LEADER, sydd eisoes wedi’i wreiddio mewn arferion datblygu economaidd gwledig yn sir Gaerfyrddin.

Mae ardaloedd gwledig yn wynebu newid sylweddol yn sgil technoleg newydd, yn enwedig pwysau digidol, amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd, pwysau demograffig yn ymwneud â phobl hŷn yn mudo, a phobl iau yn allfudo, yn ogystal â dynameg wleidyddol a marchnad sy’n newid. Er bod y newidiadau’n rhai heriol, maent hefyd yn cynnig ffynonellau o gyfleoedd economaidd newydd.

Er mor debyg yw’r heriau strategol hyn a wynebir gan ardaloedd gwledig ar draws Ewrop, bydd gan gymunedau, wrth gwrs, heriau lleol penodol. Mae angen i bolisïau a rhaglenni fod yn ddigon hyblyg i alluogi’r gymuned fusnes i fanteisio i’r eithaf ar botensial busnes modern yn eu hardal.

Yr unig elfen mae un erthygl yn canolbwyntio arni yw canolfannau digidol gwledig, sy’n cael ei ffafrio fel modd o fanteisio ar botensial economaidd.  Mae sawl astudiaeth achos yn nodi y gall cynnig mynediad rhyngrwyd cyflym, dibynadwy, mannau ffisegol ar gyfer gweithio a rhwydweithio, ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth busnes a chymunedol alluogi ardal leol i wireddu ei photensial cudd.

Un o’r syniadau allweddol a fynegwyd yw’r angen am gymorth busnes doethach, gan symud oddi wrth fodelau sy’n cyfyngu eu hunain i ymyriadau ‘untro’, tuag at ddull hyblyg sy’n hebrwng yr entrepreneur ar hyd ‘taith gymorth’ drwy ecosystem o wasanaethau cymorth.

Ystyrir hefyd rôl y Rhaglenni Datblygu Gwledig o ran cefnogi newid busnesau gwledig a’u datblygu. Er bod gan y Rhaglenni Datblygu Gwledig offer a mesurau ymyrryd effeithiol, dim ond os cânt eu defnyddio mewn ffordd sy’n ymateb i anghenion busnes mewn gwahanol leoedd, sectorau a chyfnodau datblygu y gallant weithio. Er na fydd cymorth y Rhaglenni Datblygu Gwledig ar gael yn uniongyrchol i Gymru yn y dyfodol, mae gwersi defnyddiol o astudiaeth achos Gwlad y Basg yn cael sylw, yn anad dim am fod y rhanbarth yn un o bartneriaid strategol Cymru. Nod prosiect Katilu Gwlad y Basg yw creu amgylchedd gwledig bywiog a deniadol a llunio modelau busnes, cynnyrch a gwasanaethau newydd, gan ddefnyddio prosesau trosglwyddo gwybodaeth, dysgu ar y cyd a chydweithrediad.

Mae astudiaethau achos, darluniau ac inffograffeg drwy’r erthyglau yn helpu i gyflwyno’r heriau strategol cymhleth y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu a syniadau ar fanteisio ar y cyfleoedd, mewn ffordd ddefnyddiol ac addysgiadol.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb lawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

Ailddychmygu Cyfleoedd Busnes Gwledig

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This