Astudiaeth Lle Dwfn Llanymddyfri yn darparu dulliau dysgu ar gyfer Sir Gaerfyrddin i gyd

Mai 2020 | Polisi gwledig, Sylw

Yn ddiweddar, adolygodd grŵp cynghori’r prosiect Astudiaeth Lle Dwfn Llanymddyfri: Llwybr ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, dan arweiniad Dr Mark Lang gyda chydweithrediad Prifysgol Caerdydd a’i gyhoeddi yn 2019.

Gan ddefnyddio papurau academaidd, adroddiadau cymdeithasol ac economaidd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, fframwaith polisi Llywodraeth Cymru ac allbwn pum sesiwn ar y thema ‘Gofod meddwl’ gydag aelodau o’r gymuned, mae’r astudiaeth Lle Dwfn yn ystyried sut i sicrhau cymuned fwy cynaliadwy yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol.

Yn ganolog i hyn, mae’r dull Lle Dwfn yn dadlau nad oes gan y model traddodiadol ar gyfer datblygu economaidd gyda phwyslais ar seilwaith, twf di-baid, a sgiliau ‘parod i fuddsoddi’ fawr ddim i’w gynnig i gymuned fel Llanymddyfri. Yn hytrach, dylid canolbwyntio ar wneud lleoedd, mwy o weithgarwch economaidd lleol, mwy o degwch cymdeithasol mewn canlyniadau economaidd, ac integreiddio pobl ac amgylchedd yn well.

Mae gan Lanymddyfri sawl nodwedd allweddol, sy’n gyfarwydd i lawer o drefi eraill Sir Gaerfyrddin.  Mae mwy o siaradwyr Cymraeg, ond mae diboblogi yn risg ac mae’r boblogaeth yn heneiddio. Mae’r ysgol uwchradd leol wedi cau yn ddiweddar, ond mae gwasanaethau cyhoeddus craidd dal ar gael yn lleol, ac mae angen eu gwarchod. Yr unig gyfleuster bancio yw’r swyddfa bost leol, ac eto mae cyfran fwy o ficrofusnesau a gweithwyr hunangyflogedig y gallai fod angen cael gafael ar wasanaethau ariannol arnynt yn amlach. Er gwaethaf pa mor amlwg yw ffermio yn yr ardal, mae’r rhan fwyaf o gartrefi yn prynu eu bwyd wythnosol mewn archfarchnadoedd mawr ar gyrion y dref.

Mae’r astudiaeth yn hyrwyddo datblygiad cynyddol rhai rhannau o’r economi leol, megis bwyd, ynni ac arbed ynni, gofal, a’r amgylchedd. Gellid meithrin busnesau lleol cynhenid a chefnogi pobl hunangyflogedig drwy greu canolbwynt busnes yng nghanol y dref i ddarparu cyfleusterau busnes gan gynnwys mynediad i fand eang cyflym.

Mae nifer o gysyniadau allweddol yn cyfrannu at y dull Lle Dwfn, ac mae’r adroddiad yn ystyried pob un yn ei dro: Allgáu Cymdeithasol – cysylltir tlodi yn Llanymddyfri â chyflogau isel yn hytrach na diweithdra llwyr; y Ddamcaniaeth Bontio – sut y gall y gymuned ddod yn economi carbon isel; Lle Cyfan – dull penodol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, gan ddadlau nad oes model un maint addas i bawb; ac yn olaf, rhaid i’r Economi Sylfaenol – y gweithgarwch economaidd ‘dinod’ yn aml sy’n diwallu anghenion pob dydd fod yn ffocws allweddol ar gyfer datblygu Llanymddyfri fel tref wydn a chynaliadwy.

Mae’r astudiaeth yn gosod y sylfeini ar gyfer cynnydd ac yn awgrymu bod hyn yn cael ei ddatblygu gan ‘Glymblaid dros Newid’ Llanymddyfri, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned, busnesau, y sector gwirfoddol a’r gwasanaeth cyhoeddus i ystyried y camau angenrheidiol i sicrhau newid cynaliadwy.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb llawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

Astudiaeth Lle Dwfn Llanymddyfri: Llwybr ar Gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This