Mae Covid-19 wedi taro’r economi wledig, ond mae cyfleoedd newydd yn dod i’r amlwg

by Mai 20, 2020Featured CY, Rhwydwaith Gwledig Cymru

Mae tîm y prosiect wedi adolygu sylw yn y wasg, adroddiadau ac erthyglau academaidd i asesu effaith Covid-19 ar Gymru wledig a nodi sut y gall cymunedau gwledig ddod atynt eu hunain eto. Er ei bod yn rhy gynnar o hyd i lunio unrhyw gasgliadau cadarn ynghylch yr union effaith na’r cyfleoedd posibl, mae rhai tueddiadau’n dod i’r amlwg.

Ar yr olwg gyntaf, mae pethau’n edrych yn llwm i gefn gwlad Cymru. Mewn economi a gefnogir gan fusnesau bach a chanolig ac sy’n ddibynnol ar incwm twristiaeth, mae gorfod cau siopau a thafarndai, a rhoi stop ar y diwydiant teithio, yn peri pryder mawr.  Mewn arolwg diweddar gan Croeso Cymru, dywedodd 96% o berchnogion busnesau eu bod yn disgwyl i effaith yr achosion yn y dyfodol fod yn ‘hynod negyddol’.

Wrth i fusnesau mewn trafferthion fynd ar-lein ac wrth i bobl weithio gartref, mae’r argyfwng hefyd wedi tynnu sylw at y rhaniad digidol rhwng ardaloedd gwledig a threfol, gyda diffyg cysylltedd band eang yn rhwystro ymdrechion i weithredu ar-lein ac yn gwneud i bobl deimlo’n fwy ynysig byth.

Gyda phoblogaeth hŷn anghyfartal, mae rhai wedi nodi, pan fydd Covid-19 yn lledaenu’n ehangach mewn ardaloedd anghysbell, y bydd y cyfraddau marwolaeth yn uwch. Aeth ymchwilwyr Prifysgol St Andrew’s mor bell â dweud y gallai hyn gael effaith ddinistriol ar yr iaith Gymraeg.

I’r gwrthwyneb, gall cymunedau gwledig anghysbell gael eu diogelu rywfaint rhag y feirws o ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith eu bod wedi’u hynysu i raddau.

Mae’r ddadl ar gysylltiadau gwledig-trefol wedi dod yn amlwg iawn yn ystod yr argyfwng, gyda hanesion perchenogion ail dai o’r ddinas yn ceisio lloches yn eu cartrefi gwledig, gan fynd yn groes i gyngor Llywodraeth Cymru a’r DU. Mae’r ddadl wedi canolbwyntio’n aml ar ddosbarth a hawl, gyda phryderon y gallai gwasanaethau iechyd lleol gael eu llorio a dicter bod rhai yn defnyddio grantiau cymorth y Llywodraeth i gynnal eu hail gartrefi.

Mae dimensiwn arall i’r ddadl hon yn ystyried y canfyddiad bod cefn gwlad yn ‘hafan’. Mae’r pandemig yn peri i lawer ailasesu eu blaenoriaethau, gydag adroddiadau bod trigolion y ddinas yn edrych fwyfwy ar adleoli i gefn gwlad. Mae’n anochel bod hyn yn codi amheuaeth ynghylch y pwysau y gallai hyn ei roi ar yr iaith Gymraeg mewn cymunedau gwledig.

Mae rhesymau i godi calon hefyd. Mae llawer o gymunedau gwledig ac asiantaethau menter sy’n gweithio ar lawr gwlad wedi dod ynghyd i ateb heriau niferus Covid-19, gan drefnu ymatebion brys uniongyrchol, darparu cyngor busnes, a rhoi llais i’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad.

Mae’r ffocws craff ar gysylltedd digidol gwael mewn ardaloedd gwledig wedi gwthio’r mater yn uwch ar yr agenda bolisi, gan ei gwneud yn sicr ei fod yn flaenoriaeth yn y cynlluniau i adfer yr economi unwaith y bydd yr argyfwng wedi cilio.

Mae’r argyfwng wedi cyflymu gwaith sy’n cael ei wneud i greu system fwyd fwy lleol, mwy o ddiddordeb yn yr economi gylchol a sylfaenol, ac wedi tynnu sylw at yr angen am hyfforddiant a sgiliau newydd. Mae hyn oll yn pwysleisio cryfder y dull LEADER a’r angen am arloesedd yn y gymuned i ailadeiladu cymunedau ac economi cefn gwlad Cymru.

I weld y papur trafod gweler isod:

Papur trafod

Share This