O’r gymuned a thu hwnt – arloesi mewn argyfwng

Mai 2020 | Polisi gwledig, Sylw

Sut mae cymunedau lleol yn ymateb yn rhagweithiol i’r argyfwng

Yn yr amser digynsail hwn, mae asiantaethau menter lleol yn camu i’r adwy i ddarparu cymorth a chefnogaeth hanfodol i fusnesau a chymunedau lleol. Gan gydnabod y pwysau eithafol sy’n wynebu cynifer o fusnesau, mae’r asiantaethau hyn wedi sefydlu eu rhwydweithiau lleol ac wedi adeiladu ar eu cysylltiadau cryf ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol i roi ymatebion hyblyg, arloesol ar waith. Mae llawer o’r asiantaethau hyn yn cael eu hariannu gan LEADER, sef rhaglen yr UE sy’n galluogi Grwpiau Gweithredu Lleol i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i faterion a chyfleoedd lleol.

Dyma drosolwg o rywfaint o’r gwaith y mae’r asiantaethau wedi ei wneud hyd yma:

  • Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gweithredodd Cadwyn Clwyd a’r Grwpiau Gweithredu Lleol yn sir Ddinbych, sir y Fflint a Wrecsam yn gyflym i ddatblygu a threialu ffyrdd newydd o ddarparu cymorth cymunedol rheng flaen yng nghyd-destun Covid-19. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau gyda mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol fel rhwydweithiau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau sylfaenol hanfodol, defnyddio technoleg i gefnogi pobl ag anableddau dysgu yn sir y Fflint wledig a threialu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau bwyd i bobl sy’n agored i niwed yn Wrecsam wledig gyda phwyslais ar gyrchu’n lleol ac yn gynaliadwy.
  • Gan weithio ar draws Ynys Môn a Gwynedd darparodd Menter Môn bwynt gwybodaeth canolog ar ei gwefan yn dweud wrth bobl pa fusnesau a sefydliadau sy’n cynnig cefnogaeth ar Ynys Môn. Yng Ngwynedd, gan weithio ochr yn ochr ag Arloesi Gwynedd, mae “Carwen”, un o geir trydan y gymuned wedi’i addasu i gael ei ddefnyddio i gyflenwi bwyd yn Nyffryn Ogwen. Caiff ei bweru gan PV solar di-garbon sydd newydd ei osod.
  • Mae Antur Teifi, sy’n gweithio ar draws sir Gaerfyrddin a chanolbarth Cymru yn rhoi cymorth i fusnesau drwy alwadau ffôn, gweminarau ac amrywiaeth o lwyfannau technoleg i estyn allan at fusnesau a chymunedau. Mae wedi gallu cael gafael ar adnoddau’n gyflym o Gronfa Fferm Wynt Brechfa i helpu gwasanaethau rheng flaen.
  • Mae PLANED yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gefnogi cymunedau sir Benfro. Mae wedi hyrwyddo enghreifftiau o fentrau gwirfoddoli cymunedol gwych sy’n defnyddio siopau pentref a neuaddau pentref. Mae PLANED wedi defnyddio podlediadau i hyrwyddo’r mentrau hyn yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael gan amrywiaeth o asiantaethau.

Mae cael pwynt cyswllt lleol uchel ei barch, y gellir ymddiried ynddo, wedi bod yn bwysig i bobl sy’n chwilio am gymorth ar yr adeg anarferol hon, fel mae Liz Bickerton o Rwydwaith Cymru Wledig yn ei esbonio,

“Mae angen adeiladu ar gryfderau a phrofiad LEADER mewn rhaglenni datblygu economaidd newydd ar gyfer Cymru. Mae angen i enw da’r Asiantaethau Menter sydd wedi’u hen sefydlu’n lleol fod yn ddulliau cyflawni ar gyfer meithrin entrepreneuriaid newydd, a fydd yn cryfhau cadwyni cyflenwi lleol ac yn datblygu sgiliau newydd ar gyfer y cyfnod ar ôl Covid-19 yng Nghymru.

Mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, mae’r gwaith lleol hwn yn cefnogi, yn meithrin ac yn ehangu menter gan gadw’r Gymraeg wrth ei chalon.”

Mae’r argyfwng presennol wedi taflu goleuni ar yr effeithiau hanfodol y gall y rhwydwaith o asiantaethau cadarn hyn sy’n canolbwyntio ar arloesi eu sicrhau ac mae’r gallu i ddwyn sefydliadau a busnesau ar draws sectorau ynghyd wedi bod yn elfen allweddol yn llwyddiant y cynlluniau arloesol hyn.

Gellir gweld hyn yn rhai o’r mentrau cydweithredol sydd wedi’u datblygu, er enghraifft:

  • Yn ddiweddar, mae Menter Môn a bwytai Dylan’s wedi dod at ei gilydd i lansio menter o’r enw Neges i ddanfon parseli bwyd i Ynys Môn a Gwynedd. Yn sir Benfro;
  • Bydd PLANED, gyda’i enw da yn rhyngwladol am gefnogi mentrau twristiaeth yn y gymuned, yn defnyddio ei wybodaeth, ei arbenigedd a’i rwydweithiau i weithio gyda’r sector a’i helpu i ailadeiladu.

Ychwanegodd Dr Liz Bickerton o Rwydwaith Cymru Wledig,

“Cryfder yr asiantaethau hyn yw eu gallu i weithredu’n gyflym, ymateb i syniadau newydd a chyflwyno atebion. Mae’r sefydliadau hyn wedi hen ennill eu plwyf yn eu cymunedau, mae pobl yn ymddiried ynddynt ac mae ganddynt enw da am gyflawni, gan eu bod wedi gweithio gyda chymunedau, busnesau bach a microfusnesau ers blynyddoedd lawer.

“Mae pobl eisoes yn meddwl sut y gellir cynnal datblygiadau arloesol ac egni a sut y gall economïau lleol ffynnu ar ôl i’r pandemig dawelu. Rydyn ni’n gwybod bod coronafeirws wedi newid ein bywydau yn ddramatig a bydd yn cael effaith barhaol ar bob un ohonom.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am syniadau, ond nid dyma’r amser i fenter newydd “gael gwared ar yr hen syniadau”. Dyma’r amser i barhau i ariannu’r asiantaethau lleol hynny sy’n gallu gweithio ar draws sectorau, gan weithredu’n gyflym a sbarduno arloesedd yn y gymuned.”

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This