Yr Arsyllfa yn cefnogi ymateb polisi gwledig Covid-19

Mai 2020 | Polisi gwledig, Sylw

Mae’n amlwg yn rhy gynnar i ddadansoddi pa effaith a gaiff Covid-19, ynghyd â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol i fynd i’r afael â’r clefyd, ar economi wledig Cymru.

Serch hynny, nid yw’r effaith ar sir Gaerfyrddin wledig dros y degawd nesaf yn ogystal â’r ffactorau sy’n caniatáu i’r boblogaeth leol godi ar ei thraed eto drwy ymdrechion entrepreneuraidd i’w gweld o fewn ffiniau’r sir yn unig ac maent yr un mor berthnasol ni waeth pa ran o Gymru wledig yr ydych yn byw ynddi.

Felly, mewn ymateb i sefyllfa Covid-19 fe wnaeth tîm y prosiect gwrdd â chynrychiolwyr o Rwydwaith Gwledig Cymru (rhwydwaith annibynnol o sefydliadau ac unigolion sy’n ceisio hyrwyddo blaenoriaethau economaidd gwledig allweddol) i drafod sut y gellid sicrhau capasiti a mewnwelediad ychwanegol sylweddol drwy gydweithredu pellach mewn ymateb i effaith Covid-19 ar gymunedau gwledig ledled Cymru.

Felly dros y misoedd nesaf bydd tîm yr Arsyllfa yn gweithio gyda phartneriaid Rhwydwaith Gwledig Cymru i sicrhau’r canlynol:

  • Helpu i ledaenu syniadau gwledig a fyddai o gymorth wrth ddadansoddi a hyrwyddo diwylliant entrepreneuraidd
  • Darparu rôl gydgysylltu well ar gyfer y rhwydwaith er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo gwybodaeth ar draws cymunedau gwledig sy’n dod â budd i bawb yn sgil y gwaith hwn (gan nodi’n hanfodol bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i sir Gaerfyrddin o ardaloedd gwledig tebyg mewn rhannau eraill o Gymru a thu hwnt)
  • Darparu fforwm ar-lein i wyntyllu syniadau a safbwyntiau arloesol ar feysydd polisi sy’n asgwrn cefn i gorff gwleidyddol Cymru wledig – o sectorau allweddol megis bwyd-amaeth i rôl y Gymraeg (bydd hyn yn dod i’r amlwg mewn canolfan ar-lein yn ddiweddarach yn 2020 a fydd yn helpu i hwyluso trafodaeth bellach ar bolisi gwledig)

Am ragor o wybodaeth am ein cynlluniau i gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru yn ystod 2020 a thu hwnt cysylltwch â ni yn arsyllfa@four.cymru

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This