Gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan mewn prosiect coedlysiau

Rhagfyr 2023 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi dechrau cydweithio a rhai o’r bridwyr planhigion gorau yn Ewrop yn enw hyrwyddo system cynhyrchu bwyd sydd yn fwy cynaliadwy.

Mae’r gwaith yn edrych ar gnydau gall gael eu defnyddio i gymryd lle protein wedi ei fewnforio megis ffa soia a ddefnyddir i fwydo anifeiliaid. Ar hyn o bryd mae tua 35 miliwn tunnell o soia yn cael ei fewnforio i’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Gyfunol bob blwyddyn, gyda’r mwyafrif o hyn yn cael ei fewnforio o wledydd tu hwnt i Ewrop.

Bwriad y consortiwm Cynhyrchu Codlysiau yw dod a’r arbenigwyr pennaf o ar draws y cyfandir ynghyd er mwyn cynyddu cynhyrchiant o wahanol fathau o brotein drwy blanhigion, megis bridio mathau newydd o ffa soia, bysedd y blaidd, pys, ffacbys, ffa a meillion.

Mantais arall y cnydau hyn yw eu bod yn cynhyrchu nitrogen a’i osod yn y tir, ac felly yn gallu lleihau dibyniaeth ar fewnbynnau nitrogen a gwrteithiau sy’n cael ei mewnforio hefyd. Mae tua 10 miliwn tunnell o wrtaith nitrogen yn cael ei ddefnyddio yn yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Gyfunol bob blwyddyn, ac fel y ffa soia mae’r mwyafrif o hwn yn cael ei fewnforio.

Dim ond 2 – 3% o’r tir sy’n cael ei gynaeafu ar draws Ewrop sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu codlysiau o’r math hwn, ac felly mae’r gwyddonwyr yn eiddgar i ganfod ffyrdd o hybu a hyrwyddo cynhyrchiant yn enw cynaliadwyedd, gwytnwch y system fwyd a lleihau allyriadau carbon y diwydiant ffermio.

Mae’r bartneriaeth newydd wedi derbyn €7 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ac yn cynnwys 32 o bartneriaid o 16 o wledydd gan gynnwys Seland Newydd ac Unol Daleithiau America. Bydd y prosiect yn rhedeg nes mis Chwefror 2028, a’r nod yw lleihau’r diffyg yng nghynhyrchiant codlysiau drwy hyrwyddo bridio planhigion bydd yn eu gwneud yn fwy cynhyrchiol a proffidiol i ffermwyr.

Dywedodd Catherine Howarth o Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:

‘O ystyried yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, a manteision bwydydd sy’n seiliedig ar blanhigion, mae  teulu’r codlysiau yn dda i’n hiechyd ac i’r blaned. Mae ffacbys, ffa soia, bysedd y blaidd, pys, a ffa a’r planhigion sy’n perthyn iddyn nhw yn casglu eu nitrogen eu hunain o’r aer a’u storio ac yn rhoi hadau llawn protein i ni sy’n allweddol i ddiet iach a chynaliadwy. Bydd cynyddu eu cynhyrchiant yn Ewrop yn gwneud systemau ffermio yn fwy amrywiol, gwydn a chynaliadwy.’

Mewn datganiad dywedodd Dr Lars-Gernot Otto o Sefydliad Ymchwil Genetig Planhigion a Phlanhigion Cnydau Leibniz:

‘Bydd y prosiect yn cyfrannu at ein cenhadaeth i gefnogi bridio planhigion gyda’n cronfa hadau ac i fanteisio ar eneteg er mwyn datblygiad cynaliadwy ffermio. Mae’r codlysiau yn rhan hanfodol o systemau amaethyddol cynaliadwy ac mae’r prosiect hwn yn ein galluogi i gyfrannu at ddatblygu’r mathau gwell sydd eu hangen arnom.

‘Mae angen i ni ffurfio partneriaethau newydd rhwng sefydliadau ymchwil planhigion Ewropeaidd blaenllaw a’r bridwyr planhigion y mae gwella cnydau fferm yn dibynnu arnyn nhw. Byddwn ni’n newid y ffordd y mae bridwyr planhigion codlysiau yn cael eu cefnogi gan ymchwil er budd ffermwyr Ewropeaidd, yr amgylchedd, a’n hiechyd.’

Am ragor o wybodaeth am y prosiect a gwaith pellach yn y maes hwn, ewch i wefan Legume Hub.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This