Wythnos Hinsawdd Cymru: Cyfle i wylio’r sesiynau ar alw

Rhagfyr 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Cynhaliwyd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 wythnos diwethaf, gyda 95 o gyfranwyr yn cymryd rhan ar draws 28 sesiwn. Cafwyd ystod eang o sgyrsiau a chyflwyniadau gan arbenigwyr, academyddion a rhanddeiliaid o amrywiaeth helaeth o feysydd arbenigedd gwahanol. Trafodwyd trafnidiaeth, tai, gwaith, busnes, iechyd a lles a sut y mae rhain oll yn cyd-blethu gyda’r amcan i leihau allyriadau carbon a sicrhau fod Cymru yn barod i ymdopi a heriau newid hinsawdd.

Thema y digwyddiad drwy gydol yr wythnos oedd tegwch, gyda golwg penodol ar sut i sichrau ein bod yn symud tuag at economi sy’n llai dibynnol ar danwyddau ffosil heb gosbi yn anfwriadol y tlotaf yn ein cymdeithas. Megis dechrau y mae’r gwaith i’r perwyl hwn, ac mae’n siwr y bydd hyn yn ffactor cynyddol o’n gwleidyddiaeth yng Nghymru a tu hwnt yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Bellach, mae modd gwylio’r holl sesiynau yn ôl ar alw ar wefan Wythnos Hinsawdd Cymru, ac fe allwch wneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This