Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cydweithio a chwmnïau digidol yn enw helpu dinasoedd gyrraedd targedau amgylcheddol

Rhagfyr 2023 | Sylw

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi eu bod wedi bod yn cydweithio gydag un o ddarparwyr mwyaf blaenllaw o wasanaethau technoleg delweddu a dadansoddi data yn enw cynorthwyo dinasoedd i leihau allyriadau carbon.

Mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda Augment City, cwmni o Oslo yn Norwy ar y prosiect, ynghyd a Llywodraeth Cymru. Mae criw o staff a myfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu ac Amgylchedd y Brifysgol wedi gallu defnyddio offer o’r radd flaenaf o Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru er mwyn cynhyrchu delweddau tri dimensiwn o ganol dinas Abertawe. Drwy ddefnyddio drôn i gasglu data, maent wedi gallu cynhyrchu ‘Efaill Digidol’ o’r ddinas er mwyn ei astudio a’i ddadansoddi ar gyfrifiadur.

Cafodd y model digidol manwl a gynhyrchwyd ei arddangos yng Nghynhadledd COP 28 yn Dubai wythnos diwethaf.

Dywedodd Ian Standen, Cyfarwyddwr Rhaglen Pensaernïaeth yn Y Drindod Dewi Sant:

‘Rhoddodd y prosiect hwn gyfle gwych i ni ddangos sgiliau a chapasiti ein prifysgol yng nghanol y ddinas. Trwy ddefnyddio technoleg o’r radd flaenaf, roeddem yn gallu casglu data unigryw i asesu heriau a chyfleoedd datgarboneiddio mewn cyd-destun dinas.

‘Mae’r gallu i werthuso effaith ffyrdd a seilwaith adeiladu o ran lefelau allyriadau neu ddefnydd o ynni, er enghraifft, mewn ffordd gyfannol, yn gallu hwyluso gwell dealltwriaeth o’u heffaith amgylcheddol gyffredinol.’

Yn ôl Standen, gall hyn arwain at brosiectau a buddsoddiad ehangach:

‘Byddai hyn yn darparu budd cadarnhaol i Abertawe yn y tymor hir ochr yn ochr â phartneriaid masnachol allweddol sy’n cynnig gwasanaethau ehangach fel rhan o’r Rhaglen Sero Net Trefol, gan gynnwys achosion busnes, modelau cyllid cyfunol, cymorth gweithredu, a mapiau ffordd sero net. Byddai hyn yn ychwanegu at yr uchelgeisiau ar gyfer dinas Abertawe a’i chynlluniau adfywio.’

Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen hon i wefan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This