Cyswllt Ffermio yn tynnu sylw at gynllun i gyfnewid porthiant soia gyda pys

Rhagfyr 2023 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae ffarmwr da byw ym Maesyfed sydd yn cymryd rhan yn rhaglen ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffarmio am gyfnewid dwysfwydydd wedi eu creu o ffa soia, gyda phys a ffa. Mae Robert Lyone, sy’n ffermio ar Lower House Farm ger Llandridod, am newid ei ddull o fwydo’r anifeiliaid yn enw lleihau ôl troed carbon y fferm a gwella gwytnwch y busnes.

Mae symud i ddefnyddio pys a ffa yn golygu y gall Robert dyfu llawer o’r porthiant y mae ei angen ar y fferm, ac felly’n llai dibynnol ar fewnforion soia ac yn llai agored i ddrwg effaith cynnydd mewn prisoedd fel sydd wedi ei weld yn ddiweddar. Gan fod planhigion pys a ffa hefyd yn cronni nitrogen yn y ddaear drwy gyfrwng eu gwreiddiau, mae’r rhain yn gnydau ardderchog i’w tyfu er mwyn cynyddu ffrwythlondeb y tir.

Mae cynllun ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio yn ceisio cynorthwyo ffermwyr fel Robert i ymchwilio a gwerthuso sut i wneud newidiadau o’r fath, ac yn asesu datblygiad y prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen. Dywed Dafydd Owen, Swyddog Sector Ffermydd Cymysg Cyswllt Ffermio, sy’n goruchwylio’r prosiect:

‘Gall defnyddio mwy o borthiant cartref leihau costau porthiant dros y gaeaf a dibyniaeth ar soia wedi’i fewnforio, a gwella ôl troed carbon y fferm. Mae hefyd yn lleddfu’r risg o gynnydd sydyn mewn prisiau mewn porthiant a brynir, a dibyniaeth ar wrtaith cemegol. Gall cyflwyno cnwd toriad o godlysiau weddu’n dda mewn cylchdro; gan ei fod yn gnwd sefydlogi nitrogen, nid oes angen gwrtaith nitrogen ar gyfer y cnwd dilynol.’

Am fwy o fanylion ynghylch y prosiect, ac i ganfod mwy o wybodaeth am raglen ‘Ein Ffermydd’, dilynwch y ddolen hon i wefan Cyswllt Ffermio.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This