GWYLIWCH: Gweithdy Allfudo Prifysgol Aberystwyth

Rhagfyr 2023 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

aerial view of city near body of water during daytime

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi fideo o weithdy diweddar oedd yn edrych ar y pwnc o allfudo.

Fel rhan o’u gwaith ar y cyd a Wavehill ar ffrwd ymchwil a dysgu rhaglen ARFOR, mae’r tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau er mwyn trin a thrafod y gwahanol elfennau sydd angen eu hystyried wrth feddwl am gymunedau gogledd a gorllewin Cymru gyda golwg penodol ar allfudo. Ar 3 Tachwedd 2023 cafwyd cyfarfod ‘ARFOR, allfudo a’r Gymraeg’ lle gwelwyd cyflwyniadau gan amrywiaeth o gyfranwyr o ar draws sawl disgyblaeth academaidd yn trafod eu gwaith yng nghyd-destun amcanion cynllun ARFOR a chymhelliant a rhesymau pobl dros symud o’u cymunedau magwrol.

Wythnos yn ddiweddarach ar 10 Tachwedd 2023 cynhaliwyd sesiwn rhithiol o dan arweiniad Dr Elin Royles. Bwriad y sesiwn oedd gosod y profiad Cymreig, a’r syniadau sydd yn gyrru rhaglen ARFOR, mewn cyd-destun rhyngwladol drwy gymharu profiadau rhai ardaloedd yng Nghymru ac ardaloedd cyffelyb o ran economi, demograffeg a daearyddiaeth megis ynysoedd yr Alban a chefn gwlad Iwerddon, ynghyd a rhannau o’r Iseldiroedd a’r Almaen.

Wedi cyflwyniad i’r cyd-destun Cymreig a rhaglen ARFOR gan Dr Elin Royles cafwyd cyflwyniad gan Dr Caitrione Ni Laoire o dan y teitl ‘Outmigration and return mobilities in contemporary rural Ireland’. Yn dilyn hyn edrychwyd ar enghraifft ynysoedd yr Alban gan Dr Rosie Alexander o Brifysgol Gorllewin yr Alban yn edrych ar yrfaoedd fel ystyriaeth i bobl ifanc oedd yn symud ac yn aros.

Yn dilyn egwyl cafwyd cyflwyniad gan Tialda Haartsen, Athro Daearyddiaeth Wledig ym Mhrifysgol Groningen yn Yr Iseldiroedd. Roedd cyflwyniad Yr Athro Haartsen yn edrych ar achos Yr Iseldiroedd, ac yn canolbwyntio ar y dewisiadau sydd ar waith wrth i bobl ifanc benderfynu eu dyfodol. Wedyn bu cyflwyniad gan Annett Steinführer o Sefydliad Astudiaethau Gwledig Thünen yn yr Almaen yn edrych ar y cyd-destun Almeinig. Mae recordiad o’r cyflwyniadau i gyd ynghyd a sesiynau cwestiwn ac ateb a gafwyd yn ystod y gweithdy bellach ar gael yma.

Roedd y cyfarfod yn gyfle gwerthfawr i’r rheini sydd yn astudio’r maes ac yn llunio polisi i glywed profiadau o ar draws Ewrop, er mwyn deall yr hyn sy’n gyffredin rhwng gwledydd a chymharu ymyraethau a dulliau o fesur mudo mewnol a’i effaith ar gymdeithas ac economi leol. Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal mwy o ddigwyddiadau yn edrych ar gynllun ARFOR yn y flwyddyn newydd, cadwch lygad ar Arsyllfa i glywed y diweddaraf.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This