Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed fod newid demograffeg yn peryglu gwasanaethau lleol a’r iaith

Rhagfyr 2023 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Big Ben, London

Ar fore dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 fe wnaeth y Pwyllgor Materion Cymreig glywed gan ystod o arbenigwyr wrth iddynt graffu ar effaith newid demograffeg ar gymunedau Cymru. Mewn sesiwn bydd o ddiddordeb i unrhyw un sydd yn gofidio am ddyfodol cymunedau yng Nghymru, clywodd y Pwyllgor am yr heriau y mae cymunedau ar draws y wlad yn eu hwynebu.

Cafwyd tystiolaeth gan:

  • Emma Rourke, Dirprwy Ystadegydd Gwladol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Poblogaeth a Dulliau, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Jen Woolford, Cyfarwyddwr Ystadegau Poblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Yr Athro Michael Woods, FAcSS, FLSW, Athro Daearyddiaeth Ddynol a Chyd-gyfarwyddwr, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth
  • Meirion Thomas, Cyfarwyddwr – Cymru, Cynghrair Cymunedau Diwydiannol.

Yn ystod y drafodaeth cafodd y problemau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg eu crybwyll sawl tro. Wrth ymateb i gwestiwn a osodwyd gan gadeirydd y pwyllgor Stephen Crabb yn gofyn a ddylid gofidio ynghylch data demograffeg Cymru, dywedodd Yr Athro Mike Woods:

‘Dwi’n meddwl bod achos i ofidio ynghylch cymunedau sydd a newid poblogaeth negyddol cyson a dwi’n meddwl bod gofid yno am yr effaith y mae hynny’n ei gael ar ddichonoldeb gwasanaethau lleol, ac mae peryg am gylch cythreulig, unwaith yr ydych yn dechrau colli gwasanaethau oherwydd bod y boblogaeth yn disgyn yna mae’n dod yn llai atyniadol i eraill i symud i mewn. Y duedd tymor hir yw colli poblogaeth mewn cymunedau gwledig ac arfordirol, mwy o’r boblogaeth yn cronni mewn trefi ac fe all hynny fod yn fater o bryder wrth ystyried darpariaeth gwasanaethau a hyfywedd cymunedau llai, ac yn fater penodol mewn Cymunedau mwyafrifol Cymraeg eu hiaith. Does gen i ddim y manylion wrth law ynghylch beth yw cyfansoddiad mewnfudwyr ac allfudwyr o’r rheiny ond yn sicr rydym yn gweld nifer o’r cymunedau hynny yn benodol yn Sir Gaerfyrddin a Gogledd Orllewin Cymru lle rydym yn gweld cymunedau yn symud o fod yn gymunedau mwyafrifol Gymraeg, ac yn cwympo oddi tan hynny.’

Mae modd i chi wylio’r sesiwn yn ei gyfanrwydd ar wefan Parliament TV.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This