Cyngres Ieithoedd Lanean 2024 i gael ei drefnu gan Lywodraeth Gwlad y Basg

Rhagfyr 2023 | Arfor, Sylw

high-rise building

Bydd Cynhadledd Cyngres Lanean 2024 yn cael ei drefnu gan Wlad y Basg ac yn cael ei gynnal ar 18 a 19 Ionawr flwyddyn nesaf. Pwrpas y Gyngres yw canolbwyntio ar yr heriau sy’n wynebu polisi iaith yn y byd gwaith, a rhannu arferion da ar gyfer cynllunio iaith yn nhermau sosio-economaidd, gan dynnu ynghyd rhanddeiliaid lleol a rhyngwladol i drafod.

Dros ddau ddiwrnod ym Milbao, bydd y gyngres yn cael ei chynnal ym Mhalas Euskalduna ar y diwrnod cyntaf, cyn symud i’r Amgueddfa’r Guggenheim ar gyfer yr ail ddiwrnod. Trefnir y digwyddiad gan Adran Diwylliant a Pholisi Iaith Llywodraeth Gwlad y Basg ynghyd a’r adran Datblygiad Economaidd, Cynaliadwyedd ac Amgylchedd. Bydd y Gyngres ar agor i’r cyhoedd ac unrhyw un sydd â diddordeb ym maes cynllunio iaith. Mae modd canfod mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This