Cyngor Gwynedd yn prynu tir i adeiladu tai

Rhagfyr 2023 | Arfor, Sylw, Tlodi gwledig

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod wedi prynu tir yng Nghaernarfon, Llanystumdwy a Mynytho er mwyn adeiladu tai arnynt yn enw ymateb i’r argyfwng tai lleol. Y bwriad yw adeiladu tai ar y safleoedd fel rhaglen adeiladu Tŷ Gwynedd, a chwblhau 90 o gartrefi o dan y cynllun erbyn 2027.

O dderbyn caniatâd cynllunio, bydd y tai ar gael i’w rhentu am bris fforddiadwy neu i’w prynu drwy gynllun rhannu ecwiti. Nod y cynllun yw darparu cartrefi fforddiadwy i bobl leol nad ydynt yn gallu rhentu neu brynu tŷ ar y farchnad agored ar hyn o bryd, ond nad ydynt chwaith yn gymwys i gael mynediad at dai cymdeithasol.

Mae’r cynllun yn dod o dan ymbarél Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd sydd werth £140 miliwn, i geisio mynd i’r afael a’r galw cynyddol sydd o bobl leol ar gyfer tai fforddiadwy yn eu hardal.

Dywedodd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

‘Mae’n hysbys nad oes digon o gartrefi addas i bobl Gwynedd yn ein Sir ar hyn o bryd, ac mae’r angen yn dal i fod yn uwch na’r cyflenwad. Mae gennym dros 5000 o unigolion ar y gofrestr tai cymdeithasol ac rydym yn wynebu argyfwng digartrefedd lle mae’r Cyngor yn gorfod lleoli’r nifer uchaf erioed o bobl mewn llety brys. Rydan ni fel Cyngor yn gwneud cymaint ag y gallwn i fynd i’r afael â’r argyfwng yma, trwy brynu eiddo preifat a chynnig cymhellion i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

‘Ochr yn ochr â chynlluniau i ddod â thai yn ôl i ddwylo trigolion Gwynedd, mae’n hollbwysig bod cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, a phrynu tir datblygu yw’r cam cyntaf i wireddu hynny. Bydd y datblygiadau yma’n angenrheidiol i ddarparu’r hawl dynol sylfaenol o gartrefi diogel ac addas i bobl y Sir.’

Dywedodd Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

‘Fel adran, rydym yn ymroddedig i adeiladu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl Gwynedd, ac mae’n destun balchder mawr imi weld yr elfennau allweddol hyn o’n Cynllun Gweithredu Tai yn symud ymlaen yn dda.’

Maent yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwerthu tir neu eiddo i’r Cyngor i gysylltu â hwy yn uniongyrchol drwy e-bost neu drwy ffonio 01766771000. Os ydych am weld os ydych yn gymwys i ymgeisio i Tai Teg, yna mae modd canfod mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This