Prosiect Pridd Cymru yn asesu gallu gwrychoedd i storio carbon

Rhagfyr 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn casglu samplau pridd ar draws Cymru, er mwyn canfod i ba raddau y mae gwrychoedd yn helpu i ddal a storio carbon. Mae Prosiect Pridd Cymru bellach yn ei ail flwyddyn o gasglu data, ac mae’r ymchwilwyr wedi ehangu’r mathau o samplau a gymerir i gynnwys samplau oddi fewn metr o wrychoedd caeau.

Nod yr ymchwiliad yw darparu data meincnodi i ffermwyr, iddynt gael deall pa effaith y mae gwrychoedd a thyfiant arall yn ei gael ar eu gallu i storio a dal carbon ar eu ffermydd. Mae dros 1,000 o samplau wedi eu cymryd o ffermydd ac wedi eu dadansoddi i weld eu cynnwys organig, dwysedd swmp ac amryw o fesuriadau eraill. Casglwyd pob un sampl oddi fewn i’r un cyfnod yn ystod yr hydref i sicrhau cysondeb, ac o amryw o fathau o gaeau glaswellt megis caeau porfa barhaol, caeau gwair a silwair a chaeau wedi’u hail-hadu.

Bydd carbon pridd a charbon yn gyffredinol yn themâu canolog mewn tri Dosbarth Meistr Cyswllt Ffermio sy’n cael eu cynnal ym mis Chwefror 2024. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn Llety Cynin, Sanclêr, ar 6 Chwefror, yn Elephant and Castle, Y Drenewydd, ar 8 Chwefror, ac yng Ngwesty Nanhoron Arms, Nefyn, ar 20 Chwefror, rhwng 7;30yb a 9:30yh. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am y dosbarthiadau hyn drwy ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This