HCC: Llyfryn llawn ffeithiau a ffigyrau amaethyddol

Rhagfyr 2023 | O’r pridd i’r plât, Sylw

herd of sheep on green grass field during daytime

Mae’r ystadegau diweddaraf ar y sector cig coch a da byw ar gael i’w dadansoddi a’u lawrlwytho oddi ar wefan Hybu Cig Cymru (HCC). Mae’r Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig yn gasgliad blynyddol o wybodaeth allweddol a data defnyddiol am y diwydiant. Mae’n cynnwys ystadegau cyffredinol – trosolwg cynhwysfawr o amaethyddiaeth yng Nghymru – ac adrannau manwl i ddilyn ar wartheg, defaid a moch. Bydd yn rhoi gwybod i chi am y 14,067 o ddaliadau defaid ac ŵyn sydd yng Nghymru a’r 6,790 o ddaliadau cig eidion. Mae’n nodi bod gwerth allforion cig coch (ffres / wedi’i rewi) o’r DU wedi cynyddu rhyw 20 y cant mewn 12 mis, a bod Ffrainc yn derbyn dros un rhan o bump o’r cig sy’n cael ei allforio.

Mae’r llyfryn rhad ac am ddim yn datgelu bod gwerth ychwanegol gros amaethyddiaeth yng Nghymru yn £811m a’r cyfanswm sy’n deillio o ffermio yn £599m. Dywed roedd 23 marchnad da byw yng Nghymru, a oedd â chyfanswm o dros 1.6 miliwn o ddefaid a gwartheg y llynedd. Mae’n nodi bod effeithlonrwydd ffermio yn amrywio’n fawr dros Gymru, gyda cynhyrchydd cig oen ar gyfartaledd yn cynhyrchu ar 237c fesul cilo pwysau byw, a rhai yn llwyddo i dorri hynny i lawr i 184c y cilo pwysau byw. Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn, prynwyd dros 12 y cant o gig oen drwy Gigyddion – sy’n gynnydd ar y flwyddyn flaenorol.

Os ydy’r ystadegau yma’n ddiddorol i chi, ewch i gael golwg ar y llyfryn llawn ar wefan HCC: meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/adnoddau-datar-farchnad

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This