Hwb o £1m i’r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru

Chwefror 2024 | O’r afon i’r môr, Sylw

raw pawn

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod £1 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i roi hwb i’r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru. Daw’r gefnogaeth gan Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru, gyda’r cyfnod ymgeisio ar gyfer y cyllid hwn yn agor heddiw. Nod y cynllun yw sicrhau twf amgylcheddol ac economaidd cynaliadwy yn y sector a helpu cymunedau arfordirol i ffynnu yn y dyfodol.

Gall y rheini sy’n gweithio yn y diwydiant wneud cais am gyllid ar gyfer ystod eang o weithgareddau o 11 categori ar wahân. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyllid i gynyddu potensial safleoedd dyframaethu ac offer ar longau gyda’r nod o leihau allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd ynni. Mae hefyd yn cynnwys cyngor proffesiynol i fusnesau yn amrywio o gynaliadwyedd yr amgylchedd morol i strategaethau busnes a marchnata. Gallai ymgeiswyr hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau i gynnal ymchwil ar anghenion diogelwch, iechyd a llesiant ar gyfer y sector. Uchafswm y dyfarniad grant yw £100,000 a’r isafswm yw £500. Bydd y cyfnod ymgeisio yn dod i ben ar 10 Mai a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu yn ystod mis Gorffennaf.

I ddysgu mwy cliciwch yma: Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru.

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This