Digwyddiad IWA: Darparu lles a gwytnwch trwy berchnogaeth gymunedol

Chwefror 2024 | Sylw, Arfor, Tlodi gwledig

brown brick building beside road during daytime

Ymunwch â’r Sefydliad Materion Cymreig a Phrifysgol Bangor i drafod rôl hanfodol modelau perchnogaeth gymunedol a mentrau cymdeithasol wrth fynd i’r afael â heriau economaidd lleol.

Mae awdurdodau lleol a Chynghorau Cymuned ledled Cymru’n wynebu heriau ariannol, yn ei chael hi’n anodd cadw asedau a chyfleusterau i fynd, ac yn gorfod gwneud mwy a mwy o doriadau arwyddocaol i gyllidebau yn ystod y flwyddyn. Gyda thoriadau yn y sector cyhoeddus a rhagolygon economaidd llwm parhaus, mae grwpiau a mentrau lleol yn dod at ei gilydd i brynu, rheoli a chynnal eu hasedau. Mae hyn yn eu galluogi i fynd i’r afael â rheoli’r economi leol sylfaenol.

Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio twf mentrau cymunedol a pherchnogaeth leol fel enghreifftiau o ddatrysiadau o’r gwaelod i fyny mewn perthynas â’r heriau lleol y mae cymunedau gogledd Cymru’n eu hwynebu. Mae ymdrechion o’r fath yn dangos bod rhyddhau capasiti i gymunedau’n grymuso pobl leol i ddod o hyd i ddatrysiadau diriaethol, a rhoi’r datrysiadau hynny ar waith, wrth feithrin gwytnwch lleol. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio amrywiaeth o faterion, gan gynnwys tai, iechyd, trafnidiaeth ac ynni cymunedol, ac ystyried rôl bwysig modelau perchnogaeth gymunedol a mentrau cymdeithasol yn y gogledd.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Bangor, ac yn ymuno ag ef, bydd:

  • Dr Edward Thomas Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor
  • Selwyn Williams, Cadeirydd, Cwmni Bro Ffestiniog
  • Meleri Davies, Prif Swyddog, Partneriaeth Ogwen
  • Grant Peisley, Cyfarwyddwr, Datblygiadau Egni Gwledig
  • Jess Silvester, Rheolwr Rhaglen Cymru, People’s Economy

I ddysgu mwy ewch i: Sefydliad Materion Cymreig 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This