Hyd at £24k o wobr i annog defnydd o’r iaith Gymraeg

Chwefror 2024 | Arfor, Sylw

Mae M-SParc a Llywodraeth Cymru yn lansio hac i ddatblygu technolegau newydd arloesol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg, yn yr ymdrech i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dyma’r trydydd ‘Hac Iaith’ wedi ei gynnal gan y tîm yn M-SParc. Mae M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, yn hyrwyddo twf economaidd drwy ddarparu cymorth busnes arbennig i’w holl denantiaid a’ i ecosystem ehangach, gyda’r nod yn y pen draw o greu gyrfaoedd sy’n talu’n dda i bobl leol. Fel rhan o’r nod hwn, maent hefyd yn cynnal digwyddiadau gan gynnwys hacathonau i annog meddwl arloesol ac i ariannu syniadau newydd . Yr Hac Iaith yw’r diweddaraf o’r cyfleoedd yma. Mae’r hac wedi’i rannu’n ddau ddigwyddiad cyffrous ar lein. Y cyntaf yw’r lansiad ar ddydd Iau’r 22ain, lle bydd pobl â diddordeb yn gallu gofyn cwestiynau a chlywed yn union be fydd y panel yn chwilio amdano . Bydd y digwyddiad pitsio, lle bydd y syniadau’n cael eu rhannu ac enillydd yr arian yn cael ei gyhoeddi’n fyw, yn cael ei gynnal yn briodol ar Dydd Gŵyl Dewi.

Mae MSParc yn arwain ar drefniadau a marchnata’r Hac Iaith. “Dyma’r hacathon cyntaf i mi ei drefnu, ar ôl cymryd rhan o’r blaen. Mae haciau bob amser yn ddigwyddiadau cyffrous, ac medrai’m aros i weld pa syniadau arloesol , sy’n ddefnyddio’r datblygiadau digidol diweddaraf, y gallwn helpu i’w gwireddu.” Tom Burke, Rheolwr Arloesi Digidol M SParc.

“Fi fydd cyflwynydd Hac Iaith leni, a swni’n dweud, os ti’m yn siŵr os ydi o i chdi, tyrd i’r lansiad ar-lein ar yr 22ain i weld os gei di dy ysbrydoli. Mae faint o dalent a dyfeisgarwch sydd yng Nghymru yn wirioneddol gyffrous, a drwy cyflwyno arloeswyr technegol a chreadigol i’w gilydd, fedran creu bartneriaethau cyd weithio er mwyn i chi gyrraedd eich amcanion gyda’ch gilydd” – Emily Roberts, Rheolwr Allgymorth a Chymunedol M-SParc.

“Rydw i’n falch i ariannu M–SParc i gynnal trydedd hacathon technoleg Cymraeg a gwahodd technoleg Cymraeg a gwahodd syniadau newydd i gael mwy o bobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg.” – Jeremy Evas, Pennaeth Prosiect Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru.

Mwy o wybodaeth yma 

Cofrestrwch i weld y digwyddiad lansio ddydd Iau (22/02/2024) yma 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This