£8 miliwn+ o fenthyciadau yn helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd

Chwefror 2024 | Polisi gwledig, Sylw

a black and white photo of an old building

Cadarnhaodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd y bydd pum awdurdod lleol yn elwa ar raglen trefi gwerth £8 miliwn Llywodraeth Cymru.
Mae’r Rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi yn cefnogi awdurdodau lleol i gynnal prosiectau adfywio canol trefi a dinasoedd. Mae wedi dyrannu mwy na £73 miliwn ers ei lansio yn 2014 ac wedi sicrhau bod dros 600 o unedau yn cael eu defnyddio eto.

Bydd awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd, Abertawe, Gwynedd a Wrecsam yn elwa ar y cyhoeddiad cyllido diweddaraf a byddant yn defnyddio’r arian i helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd, a rhoi bywyd newydd i adeiladau gwag. Mae’r benthyciad yn cael ei ddefnyddio i helpu perchnogion eiddo i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i fuddsoddi a thyfu yn ystod cyfnodau heriol. Bydd yn lleihau nifer y safleoedd gwag, segur nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol i annog arallgyfeirio i gynnal y trefi fel mannau i fyw, gweithio ac aros ynddynt ac i ymweld â nhw.

Mae mynd i’r afael ag eiddo gwag yn biler canolog Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a bydd y cyllid hwn ar ffurf benthyciadau yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â phrif raglen y grant adfywio gwerth £100 miliwn (dros dair blynedd), y rhaglen Benthyciadau Eiddo gwerth £43 miliwn, ac ystod o ddulliau gorfodi sydd ar gael i gefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This