Hybu Cig Cymru i gynnal gweithdy porfeydd yn Machynlleth

Chwefror 2024 | Sylw, O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig

Mae Hybu Cig Cymru wedi cyhoeddi bod gwahoddiad agored i ffermwyr Cymru fynychu gweithdy arbennig wedi ei drefnu ar y cyd gyda GrasscheckGB, prosiect sy’n monitro tyfiant gwair ar draws y DU.

Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal ar 22 Chwefror 2024 ar fferm Penmaen Bach ger Machynlleth, ac yn edrych ar ddulliau amaeth arloesol y brodyr Richard Rees a Huw Llyr wrth ddatblygu porfeydd ar gyfer y defaid maent yn eu cadw yno.

Mae’r fferm wedi bod yn rhan o fenter GrasscheckGB ers 2 flynedd bellach ac maent wedi derbyn cymorth o ran dadansoddi data ynghyd a chefnogaeth ehangach sydd wedi bod o fudd mawr i’r busnes. Ar y diwrnod bydd yr ymgynghorydd Andy King yn rhannu dadansoddiad o ddata pori’r tymor gan esbonio sut mae dadansoddi tyfiant yn cynorthwyo penderfyniadau allweddol ar y fferm. Bydd cyfle i’r rheini sy’n chwilfrydig ynghylch y dulliau dan sylw ofyn cwestiynau a holi ymhellach ynghylch y prosiect hefyd.

Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies:

‘Mae’r hyn a wnaed eisoes yma ym Mhenmaen Bach yn rhoi syniad da iawn o’r hyn y gallwn ei gyflawni os cymerwn fantais lawn o’r data. Rhaid i’n diwydiant a’n harferion ffermio esblygu os ydym am aros ar y blaen ac arwain y ffordd o ran cael busnesau fferm arloesol, cynaliadwy a phroffidiol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n tyfu’r adnodd gwerthfawr hwn i ymuno â’r diwrnod gwybodaeth a dysgu am y prosiect a’r manteision y gall eu rhoi i’w menter ffermio eu hunain.’

I archebu tocyn rhad ac am ddim i’r digwyddiad, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This