Y Samariaid i gyflogi swyddog prosiect llesiant ffermwyr

Chwefror 2024 | Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Mae Samariaid Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn chwilio am Swyddog Prosiect Ffermwyr Ifanc i ymuno a nhw ar gytundeb rhan amser. Mae’r prosiect yn un sy’n cael ei redeg ar y cyd a Thir Dewi, elusen sy’n gweithio i gynorthwyo ffermwyr gyda’u hiechyd meddwl, ac maent wedi derbyn nawdd i ariannu prosiect cymunedol fydd yn ceisio lleihau’r peryg o hunanladdiad ymysg ffermwyr.

Bydd yr unigolyn a benodir yn gyfrifol am weithio’n agos a ffermwyr ifanc a sefydliadau allweddol i godi ymwybyddiaeth, gwella dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan niweidio a helpu i greu rhwydweithiau cymorth i ffermwyr. Maent yn chwilio am unigolyn brwd ac ymroddgar sydd â phrofiad o gymunedau gwledig ac amaethyddol i arwain y gwaith ac i wneud y mwyaf o’r prosiect.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y swydd ynghyd a manylion cyflog ac amodau gweithio, ewch i wefan Samariaid Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This