Julie James yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynghylch cynllun peilot ail gartrefi Dwyfor

Gorffennaf 2023 | Arfor, Sylw

Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi rhoi diweddariad ar dreigl cynllun peilot ail gartrefi sy’n cael ei gynnal yn Nwyfor.

Cyhoeddwyd y cynllun peilot ym mis Tachwedd 2021, gyda’r nod o geisio mynd i’r afael a’r niferoedd uchel o ail gartrefi sydd i’w canfod mewn rhai ardaloedd o Gymru. Daeth y cynllun yn sgil y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae’r hyn y mae James yn ei alw’n ‘becyn radical o fesurau’ yn cynnwys galluogi awdurdodau lleol gyflwyno lefelau treth cyngor uwch ar ail gartrefi, newidiadau i’r nifer o ddiwrnodau y mae’n rhaid i adeilad gael ei osod ar gyfer cymhwyso fel llety gwyliau a hefyd newidiadau i’r fframwaith gynllunio a chynlluniau adeiladu tai.

Dywedodd James fod Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos gyda Cyngor Gwynedd, cymdeithasau tai lleol, Parc Cenedlaethol Eryri,  ac amryw o gymunedau lleol er mwyn gwerthuso’r gwaith sydd wrth law.

Amlinellodd James rhai o’r mesurau ymarferol mae Llywodraeth Cymru wedi ei gymryd er mwyn gwella mynediad i’r farchnad dai i bobl leol megis:

  • Treialu newidiadau i’r cynllun Cymorth Prynnu drwy hysbysebu yn ehangach.
  • Edrych sut y gallai cynllun Hunanadeiladu Cymru helpu pobl i adeiladu catrefi fforddiadwy yn eu hardal leol a sicrhau defnydd uwch o gartrefi ac adeiladau gwag.
  • Cynnal gweithdai cymunedol amrywiol.

Dywedodd James: ‘Ar draws yr holl waith hwn, mae’r peilot yn ymdrech ar y cyd ac yn gyfle. Erbyn hyn mae gweithgorau aml-bartner ar lefelau strategol a gweithredol. Mae grŵp data ac adnodd ar-lein a rennir yn ystyried yr effeithiau y mae’r newidiadau hyn yn eu cael ar y stoc dai a’i fforddiadwyedd yn yr ardal. Bydd hyn yn sail i’r gwerthusiad o’r rhaglen beilot.’

Mae modd darllen y datganiad yn ei gyfanrwydd yma. Bydd yna ddatganiad pellach ynghylch y cynllun peilot ymhen 6 mis.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This